Carnedd y Filiast (Glyderau)

mynydd (821m) yng Ngwynedd

Mynydd yn y Glyderau yng ngogledd Eryri yng Ngwynedd yw Carnedd y Filiast. Ef yw copa mwyaf gogleddol y Glyderau.

Carnedd y Filiast
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr821 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.14387°N 4.06414°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6204162739 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd76 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaElidir Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGlyderau Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

Saif Carnedd y Filiast ar ben gogleddol y grib sy'n arwain o'r Garn tua'r gogledd dros Foel Goch a Mynydd Perfedd. I'r de-orllewin o'r copa mae cronfa ddŵr Marchlyn Mawr, ac i'r dwyrain mae Cwm Graianog yn arwain i lawr i Nant Ffrancon. Ar lechweddau ei gopa gogleddol, Y Fronllwyd, mae Chwarel y Penrhyn.

Yr enw golygu

Mae'r enw yn tarddu o lên gwerin. Mae enwau henebion cynhanesyddol sy'n cynnwys yr elfennau miliast neu ast yn cynnwys Llety'r Filiast (Y Gogarth, Llandudno), Llety'r Filiast (ger Rowen), Llech y Filiast (Morgannwg), Carnedd y Filiast (ger Ysbyty Ifan) a Llech yr Ast (Llangoedmor, Ceredigion). Yn chwedl Culhwch ac Olwen mae Gast Rhymni, sef merch yn rhith bleiddast, yn cael ei hela gan y Brenin Arthur. [1] Mae'r filiast yn un o ymrithiadau Ceridwen yn y chwedl Hanes Taliesin.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, ail arg. 1979), tud. 93.