Llwyth Celtaidd yng Ngâl oedd y Carnut. Roedd eu tiriogaethau rhwng Afon Seine ac Afon Loire, yn yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn departements Eure-et-Loir, Loiret a Loir-et-Cher. Eu prifddinas oedd Autricum (Chartres heddiw), a chanolfan bwysig arall oedd Cenabum (Orleans).

Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Yn ôl y Rhufeiniaid, tiriogaeth y Carnutes oedd canolfan wleidyddol a chrefyddol y llwythau Galaidd. Dywed Iŵl Cesar fod y derwyddon yn cynnal cyfarfod yn nhiriogaeth y Carnutes. Roedd y llwyth yn cynhyrchu darnau arian yn y ganrif 1af CC.

Erbyn cyfnod ymgyrchoedd Iŵl Cesar yng Ngâl, roedd y Carnutes yn ddibynnol ar lwyth y Remi. Gosododd Cesar ei ddewis ei hun, Tasgetius, ar yr orsedd fel brenin y Carnutes, ond o fewn tair blynedd roedd wedi cael ei lofruddio. Ar 13 Chwefror, 53 CC, lladdodd y Carnutes y marsiandïwyr Rhuufeinig yn Cenabum fel rhan o wrthryfel Vercingetorix. Llosgodd Cesar ddinas Cenabum, gan ladd y dynion a gwerthu'r merched a phlant fel caethweision. Gyrrodd y Carnutes 12,000 o ryfelwyr i gymryd rhan yn yr ymgyrch aflwyddiannus i godi'r gwarchae ar Alesia, ond wedi methiant yr ymgyrch, gorfodwyd hwy i ildio i Cesar.