Cân lawen yw carol sy'n dathlu gŵyl Gristnogol dymhorol, gan amlaf y Nadolig ond hefyd y Dyfodiad a'r Pasg. Mae'n debyg y cenir y carolau cyntaf i gyfeilio i ddawnsiau gwerin, ac ar amryw o bynciau, ond erbyn y 14g roedd y carol yn gân grefyddol. Diflannodd y traddodiad yn y 17g o ganlyniad i'r Diwygiad Protestannaidd a'r Piwritaniaid, ond cafodd ei adfywio gan weinidogion megis John Wesley yn hwyr y 18g.[1]Caneuon gwerin syml oedd y carolau cyntaf. Yn y 15g daeth yn fwy cymhleth, gyda lleisiau polyffonig a rhythmau cymhlethach. Yn draddodiadol mae gan garol benillion bob yn ail gyda'r un gytgan ar ddechrau a diwedd y gân.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 95 [carol].
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.