Gwleidydd o Loegr yw Caroline Patricia Lucas (ganwyd 9 Rhagfyr 1960) ac Aelod Seneddol y Blaid Werdd dros etholaeth seneddol Brighton Pavilion ers etholiad 2010. Hi oedd AS cynta'r Blaid Werdd yn Lloegr.

Caroline Lucas
Arweinydd Plaid Werdd Cymru a Lloegr
Yn ei swydd
5 Medi 2008 – 5 Medi 2012
DirprwyAdrian Ramsay
Rhagflaenwyd ganNeb
Dilynwyd ganNatalie Bennett
Prif Lefarydd y Blaid Werdd
Yn ei swydd
30 Tachwedd 2007 – 5 Medi 2008
Rhagflaenwyd ganSiân Berry
Dilynwyd ganNeb
Yn ei swydd
2003 – 24 Tachwedd 2006
Rhagflaenwyd ganMargaret Wright
Dilynwyd ganSiân Berry
Aelod Seneddol
dros Brighton Pavilion
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2010
Rhagflaenwyd ganDavid Lepper
Mwyafrif1,252 (2.4%)
Aelod Senedd Ewrop
dros De-ddwyrain Lloegr
Yn ei swydd
14 Mehefin 1999 – 6 Mai 2010
Rhagflaenwyd ganCreu'r etholaeth
Dilynwyd ganKeith Taylor
Manylion personol
Ganwyd (1960-12-09) 9 Rhagfyr 1960 (63 oed)
Malvern, Lloegr
Plaid wleidyddolPlaid Werdd y DU (1986–1990)
Plaid Werdd Cymru a Lloegr (1990–presennol)
PriodRichard Savage
Alma materPrifysgol Caerwysg
Prifysgol Kansas
GwefanGwefan swyddogol

Cyn ei hethol yn Aelod seneddol, bu'n Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros De-Ddwyrain Lloegr rhwng 1999 a 2010.[1][2] ac Arweinydd y Blaid Werdd rhwng 2008 a 2012; wedi hynny ildiodd ei sedd er mwyn rhoi mwy o amser i'w gwaith fel AS yn San Steffan.

Mae'n nodedig am ei hymgyrchu brwd ac fel awdur llyfrau ar faterion gwyrdd: economeg, globaleiddio, masnach a lles anifeiliaid. Dros y blynyddoedd mae Caroline wedi gweithio gyda nifer o NCOs (mudiadau di-lywodraeth) a phwyllgorau creu polisiau gan gynnwys yr RSPCA, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac Oxfam.

Magwraeth golygu

Ganwyd Lucas yn Malvern yn Swydd Gaerwrangon, i deulu dosbarth canol, Ceidwadol;[3]; gwaith ei thad oedd rhedeg busnes gwres canol bychan.[4]

Yn Malvern Girls' College (yna Malvern St James yn 2006), y cafodd ei haddysg; ysgol breifat, annibynnol. Aeth yn fyfyrwraig i Brifysgol Caerwysg ble y cafodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 1983.[3][5] Tra yn y brifysgol bu ar sawl protest i Gomin Greenham a chanolfan awyrlu RAF Molesworth, a bu'n weithgar gyda CND.

Enillodd ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Kansas rhwng 1983 a 1984 cyn cwbwlhau Diploma mewn Newyddiaduraeth yn 1987 a Doethuriaeth (PhD) ym Mhrifysgol Caerwysg yn 1989 pan gwbwlhaodd draethawd ymchwil o'r enw Writing for Women: a study of woman as reader in Elizabethan romance.[6]

Priododd Richard Savage yng Ngorffennaf 1991 yn Rhydychen ac mae ganddynt ddau fab.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Harris, John (8 Chwefror 2010). "Could Brighton Pavilion elect Britain's first Green MP?". The Guardian. London. Cyrchwyd 28 Ebrill 2010.
  2. Greens Pick MEP Lucas to Run for MP, Brighton Argus, 18 Gorffennaf 2007
  3. 3.0 3.1 "Caroline Lucas: the Green in beige who could be Nick Clegg's nemesis". The Daily Telegraph. London. 3 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-26. Cyrchwyd 2015-04-25.
  4. "Green Shift". Thirdwaymagazine.co.uk. 4 February 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-24. Cyrchwyd 7 Mai 2010.
  5. Assinder, Nick (1 April 2005). "Interview: Caroline Lucas". BBC News.
  6. Dr. Caroline Lucas ASE Archifwyd 2008-01-08 yn y Peiriant Wayback., yn Senedd Ewrop.