Cadwyn o fynyddoedd yw'r Carpatiau[1] neu Fynyddoedd Carpathia (Pwyleg, Slofaceg a Tsieceg: Karpaty; Hwngareg: Kárpátok, Rwmaneg: Carpaţi, Serbeg: Karpati (Карпати); Wcreineg: Karpaty (Карпати)) sy'n ymestyn fel bwa o tua 1,500 km (932 milltir) ar draws Canolbarth a Dwyrain Ewrop. Dyma'r gadwyn fwyaf ar gyfandir Ewrop, sy'n cynnig cynefin i'r poblogaethau uchaf yn Ewrop o eirth brown, bleiddiaid, chamois a lynx, ynghyd â thraean o rywogaethau planhigion Ewrop. Gerlachovský štít (2,655 m / 8,711 tr) yn Slofacia yw'r mynydd uchaf.

Carpatiau
Mathcadwyn o fynyddoedd, mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
GwladSerbia, Wcráin, Awstria, tsiecia, Slofacia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Rwmania Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,655 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 25.5°E Edit this on Wikidata
Hyd1,700 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Cadwyn o gadwynau llai yw'r Carpatiau, sy'n ymestyn o'r Weriniaeth Tsiec yn y gogledd-orllewin i Slofacia, Gwlad Pwyl, Hwngari, Wcráin a Rwmania yn y dwyrain, hyd at y 'Pyrth Haearn' ar Afon Daniwb rhwng Rwmania a Serbia yn y de. Y gadwyn uchaf yn y Carpatiau yw'r Tatra Uchel, am y ffin rhwng Gwlad Pwyl a Slofacia, lle mae'r copaon uchaf yn cyrraedd hyd at 2,600 m (8,530 troedfedd) o uchder, ac sy'n cael eu dilyn gan y Carpatiau Deheuol yn Rwmania, lle ceir copaon o hyd at 2,500 m (8,202 tr). Fel rheol mae daearyddwyr yn rhannu'r Carpatiau yn dair rhan fawr: y Carpatiau Gorllewinol (Gweriniaeth Tsieic, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari), y Carpatiau Dwyreiniol (de-ddwyrain Gwlad Pwyl, dwyrain Slofacia, Wcráin, Rwmania) a'r Carpatiau Deheuol (Rwmania, Serbia).

Mae'r dinasoedd pwysicaf yn y Carpatiau neu'r cyffiniau yn cynnwys Bratislava a Košice yn Slofacia; Krakow yng Ngwlad Pwyl; Cluj-Napoca, Sibiu a Braşov yn Rwmania; a Miskolc yn Hwngari.

Mae'r gadwyn yn cynnwys ardal Transylfania yn Rwmania, ardal o fryniau coediog a gysylltir â chwedl Cownt Draciwla.

Delwedd lloeren o'r Carpatiau
Ym mynyddoedd y Tatra Uchel, Gwlad Pwyl
Mynyddoedd Hoverla, Wcráin

Dinasoedd golygu

Y dinasoedd mwyaf, yn nhrefn eu maint, yw: Bratislava (Slofacia, 426,091), Cluj-Napoca (Rwmania, 310,243), Braşov (Rwmania, 284,596), Košice (Slofacia, 234,596), Oradea (Rwmania, 206,614), Miskolc (Hwngari, 178,950), Sibiu (Rwmania, 154,892), Târgu Mureş (Rwmania, 146,000), Baia Mare (Rwmania, 137,976), Tarnów (Gwlad Pwyl, 117,109), Râmnicu Vâlcea (Rwmania, 111,497), Uzhhorod (Wcráin, 111,300), Piatra Neamţ (Rwmania, 105,865), Suceava (Rwmania, 104,914), Drobeta-Turnu Severin (Rwmania, 104,557), Reşiţa (Rwmania, 86,383), Žilina (Slofacia, 85,477), Bistriţa (Rwmania, 81,467), Banská Bystrica (Slofacia, 80,730), Deva (Rwmania, 80,000), Zlín (Gweriniaeth Tsiec, 79,538), Hunedoara (Rwmania, 79,235), Zalău (Rwmania, 71,326), Przemyśl (Gwlad Pwyl, 66,715), Alba Iulia (Rwmania, 66,369), Zaječar (Serbia, 65,969), Sfântu Gheorghe (Rwmania, 61,543), Turda (Rwmania, 57,381), Bor (Serbia, 55,817), Mediaş (Rwmania, 55,153), Poprad (Slofacia, 55,042), Petroşani (Rwmania, 45,194), Negotin (Serbia, 43,551), Miercurea Ciuc (Rwmania, 42,029), Sighişoara (Rwmania, 32,287), Făgăraş (Rwmania, 40,126), Petrila (Rwmania, 33,123) , Zakopane (Gwlad Pwyl, 27,486), Câmpulung Moldovenesc (Rwmania, 20,076), Vatra Dornei (Rwmania, 17,864), a Rakhiv (Wcráin, 15,241).

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 54.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: