Pentref yng Nghyngor yr Ucheldir, yr Alban, yw Carrbridge[1] (Gaeleg yr Alban: Drochaid Chàrr).[2] Saif tua 10 km i'r gogledd o dref Aviemore, ac mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Cairngorm.

Carrbridge
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyngor yr Ucheldir Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.282°N 3.816°W Edit this on Wikidata
Map
Pont Carrbridge
Plac Gwybodaeth Pont Carrbridge

Enwyd y pentref ar ôl hen bont a adeiladwyd yn 1717. Achoswyd difrod i'r bont yn ystod llifogydd enwog 1829 (Saesneg: "muckle spate"), a adawodd y bont yn y cyflwr y mae heddiw. Yn anffodus nid yw'n sefydlog iawn a gellir ei gweld o bell yn unig, roedd neidio oddiar y bont i'r afon isod wedi bod yn boblogaidd gynt. Mae plac gwybodaeth yn y Saesneg sy'n dangos llun o fel oedd y bont erstalwm a chasgliad arian i'r gymuned wrth y bont heddiw.

Yng Nghyfrifiad 2001, roedd poblogaeth o 708 yn byw yn y pentref, y rhanfwyaf wedi eu cyflogi ym maes twristiaeth. Roedd y pentref yn ganolfan sgio cynnar yn yr Alban. Mae'r ffordd A9 yn pasio gerllaw, cyn i'r ffordd osgoi gael ei adeiladu yn yr 1980au, roedd y briffordd hon yn rhedeg drwy ganol y pentref. Mae gorsaf reilfford yng Ngharrbridge ar Brif Reilffordd yr Ucheldiroedd.

Mae maes gwersylla Boys' Brigade wedi bod yn y pentref ers tipyn. Mae Monifieth Boys' Brigade wedi bod yn gwersylla yno ers 20 mlynedd.

Mae Canolfan Treftadaeth Nod Tir, wedi ei leoli yn ne'r pentref, sydd â sawl sleid dŵr ac amryw o weithgareddau ar gael er mwyn hwyl teuluol yn y goedwig drwy gydol y flwyddyn.

Mae dau gystadlaeaeth poblogaidd hefyd yn ael e dal yn y pentref yn flynyddol, sef Pencampwriaethau Uwd y Byd, Golden Spurtle a Chystadleuaeth Agored Albanaidd Cerfio Lli-gadwyn "Carve Carrbridge".

Mae dadl lleol yn dal i fod o amgylch sillafiad Carrbridge, gyda rhai pobl yn hapusach gyda'r enw wedi ei gyblysu i Carr-bridge. Nid oes gan y gair "Carr" unrhyw beth i'w wneud â cheir, mae'r enw'n tarddu o hen air Gaeleg sy'n golygu man corsig.

Mae gan y pentref glwb Pêl-droed, sy'n cystadlu yn y Badenoch & Strathspey Welfare League yn flynyddol yn ogystal ac mewn cystadlaethau Cypanau Lleol, sy'n fel rheol yn rhedeg Ebrill - Tachwedd. Mae'r maes PIel-droed cartref wedi ei leoli yng nghanol y pentref ger y maes parcio, eu lliwiau cartref yw streipieu du a gwyn unionsyth.

Mae cwrs golff 9 twll yno hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 30 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-04-30 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 30 Ebrill 2022

Dolenni allanol golygu