Caru ar y gwely (hefyd Caru yn y gwely neu Caru'r nos) oedd yr arfer ymhlith y werin bobl yng Nghymru, yn arbenig mewn ardaloedd gwledig, o ddyn ifanc a'i gariad yn treulio'r nos gyda'i gilydd yn stafell y ferch.

Caru ar y gwely
Enghraifft o'r canlynoltraddodiad Edit this on Wikidata

Roedd caru yn y gwely yn arfer cyffredin yn y ddeunawfed ganrif ond parhaodd mewn rhannau o'r Gymru wledig hyd at drothwy'r 20g. Mae'r rhan fwyaf o'r disgrifiadau sydd gennym yn deillio o lyfrau gan deithwyr estron a chyfeiriadau beirniadol gan weinidogion ymneilltuol a wrthwynebai'r traddodiad ar dir moesol ac felly mae'n anodd cael darlun cytbwys ohono.

Ymddengys ei fod yn arfer cyffredin gan weision a morwynion fferm. Yn ddelfrydol byddai caru yn y gwely yn digwydd gyda chaniatád teulu'r fferm (nei o leiaf byddent yn cau llygaid arno). Yn ôl rhai disgrifiadau byddai'r gwas yn dod i'r tŷ yn gwbl agored, wedi i'r teulu fynd i'w gwelyau, ac yn treulio'r nos yn stafell ei gariad ar y gwely yn ymgomio tan y wawr, yn y tywyllwch neu wrth olau cannwyll. Un arfer oedd bod y ddeuddyn ifainc yn cael eu lapio bob yn un mewn blanced. Fel rheol yr unig ddodrefn yn y stafell oedd y gwely ac felly byddent yn gorwedd neu'n eistedd arno.

Ond ceir sawl cyfeiriad yn ogystal at ddulliau mwy lladradaidd. Byddai'r dyn ifanc yn dod at y ffermdy gyda'r nos ac yn taflu graean at y ffenestr. Rhoddai'r forwyn gannwyll yn y ffenestr fel rheol. Yna byddai'r carwr yn dringo i mewn i'r ystafell ac yn aros yno tan y wawr.

Ymddengys fod yr arfer yn dderbyniol ar dir moesol am y disgwylid i'r cariadon briodi pan gawsent digon o bres wrth gefn i wneud hynny. Weithiau byddai caru ar y gwely yn parhau am flynyddoedd cyn iddynt briodi. Roeddent yn fod i ymddwyn yn ddiniwed gyda'i gilydd, ond ceir ambell gyfeiriad at yr arfer fel 'caru yn y gwely'. Roedd llach y Methodistiaid a'r capeli yn gyffredinol yn drwm ar yr arfer am ei fod yn "llygru moes" pobl ifainc. Serch hynny cymerodd amser hir i'r arfer ddarfod yn gyfangwbl.

Ceir tystiolaeth am yr arfer o bob rhan o Gymru bron, e.e. yn Ynys Môn ac Arfon yn y gogledd a Cheredigion a Sir Gâr yn y de.

Ceir traddodiad cyffelyb yn yr Iseldiroedd, Lloegr, a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, dan yr enw bundling, ond nid yw'n union yr un fath â'r arferiad Cymreig.

Cyfeiriadau a darllen pellach golygu

  • Myra Evans, Atgofion Ceinewydd (Aberystwyth, 1961)
  • Alwyn D. Rees, Life in a Welsh Countryside (1950)
  • R. W. Jones, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Llundain, 1931)
  • Catrin Stevens, Arferion Caru (1977)