Cas-blaidd

pentref ym Mhenfro

Pentref a chymuned yng nghanolbarth Sir Benfro, Cymru, yw Cas-blaidd[1] neu weithiau hefyd Casblaidd (Saesneg: Wolf's Castle neu Wolfscastle). Saif ar briffordd yr A40, tua hanner y ffordd rhwng Abergwaun a Hwlffordd, lle mae Afon Anghof yn llifo i mewn i Afon Cleddau Ddu. Mae'r pentref mewn dwy ran, Cas-blaidd ei hun a Penybont yr ochr draw i Afon Anghof.

Cas-blaidd
Castell mwnt a beili Cas-blaidd, y "Castell y Blaidd" gwreiddiol
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth642 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,251.73 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.897°N 4.971°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000485 Edit this on Wikidata
Cod OSSM957267 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Capel Penybont, Cas-blaidd

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Hanes golygu

Ceir castell mwnt a beili yma a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid. Dyma'r "Castell y Blaidd" yr enwir y pentref ar ei ôl. Cafwyd hyd i olion fila Rufeinig ger y pentref. Ychydig i'r gogledd-ddwyrain ceir Cerrig Garn Turne, sef hen gromlech wedi'i chwalu. Mae'r garreg draws yn un o'r mwyaf yng Nghymru, ac yn mesur 5 wrth 3.5 metr.

Yn ôl y chwedl leol, yma y lladdwyd y blaidd olaf yng Nghymru, ond nid ymddengys fod tystiolaeth o hyn. Mae'n bosibl ei bod yn chwedl i esbonio'r enw lle.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cas-blaidd (pob oed) (642)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cas-blaidd) (187)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cas-blaidd) (407)
  
63.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Cas-blaidd) (79)
  
30.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gasblaidd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 549
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu