Bardd Cymraeg yn hanner cyntaf y 14g oedd Casnodyn (cyn 1300 - tua 1350, fan bellaf). O ran ei arddull mae'n perthyn i do olaf y Gogynfeirdd ond yn ogystal mae'n cael ei ystyried yn un o'r cyntaf o Feirdd yr Uchelwyr. Ef yw'r bardd cynharaf o Forgannwg a wyddys.

Casnodyn
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1320 Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Brodor o Gilfai (ger Abertawe) ym Morgannwg oedd Casnodyn. Rydym yn dibynnu bron yn llwyr ar dystiolaeth ei gerddi ei hun a chyfeiriadau ato yng ngwaith beirdd eraill am ein gwybodaeth amdano. Ceir cyfeiriadau ato mewn cerdd dychan o waith Trahaearn Brydydd Mawr (gweler isod) ac yn ffug-farwnad Gruffudd Gryg i Ddafydd ap Gwilym.

Enw barddol yw 'Casnodyn', ac mae'n bosibl mai Gruffudd oedd ei enw personol. Mae'r enw 'Casnodyn' yn enghraifft dda o'r enwau difrïol yr oedd y beirdd yn arfer rhoi ar ei gilydd. Mae'r union ystyr yn ansicr, ond gallai olygu naill ai "dyn bach cas ei natur" neu "dyn bach fel cudyn".

Dengys ei gerddi iddo ganu ym Morgannwg yn bennaf, ond canodd i noddwyr yng Ngheredigion a Gwynedd hefyd. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (Ceredigion), Madog Fychan o Dir Iarll, a Gruffudd Llwyd o Dregarnedd. Ymddengys yn dra debygol iddo dderbyn ei addysg farddol gan Ieuan Llwyd ab Ieuan ap Gruffudd Foel, tad y Rhydderch a gomisiynodd Lyfr Gwyn Rhydderch. Fe'i disgrifir ganddo fel,

Llyw a'm dysgawdd hawdd hoddiaw—gerdd berffaith,
Nid fal sothachiaeth beirdd caith Caeaw.[1]

Gwaith barddol golygu

Cedwir deuddeg o gerddi y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd yn y llawysgrifau, yn awdlau moliant seciwlar a chrefyddol, englynion a dwy gerdd ddychan, un ohonynt i'r bardd Trahaearn Brydydd Mawr. Ateb i gerdd ddychan gan Drahaearn yw'r gerdd hir honno sy'n gyfres o 45 englyn o naws ddeifiol iawn, er bod yr eirfa'n astrus i'r darllenydd diweddar.

Ceidwadol iawn oedd Casnodyn, mewn oes o newid yng ngwleidyddiaeth a diwylliant Cymru yn sgil cwymp y Gymru annibynnol. Glynai at ddulliau a geirwedd Beirdd y Tywysogion a chanmolai noddwyr am nad oeddent yn deall gair o Saesneg. Ar y llaw arall ymserchai'n llwyr yn y Gymraeg a cheir sawl cyfeiriad ganddo at dafodieithoedd fel Gwyndodeg a Gwenwyseg. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw ei awdl i Gwenllian, merch Cynan ap Dafydd o Wynedd. Fe'i disgrifir ganddo yn,

Main firain riain gain Gymräeg,
Mwyn forwyn hunddwyn, hoenddygn gysteg.[2]

Cedwir y testunau cynharaf o waith Casnodyn yn ail haen Llawysgrif Hendregadredd a cheir bron pob un o'r testunau sydd wedi goroesi yn Llyfr Coch Hergest.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwaith Casnodyn, 1.7-8.
  2. Gwaith Casnodyn, 5.29-30.

Llyfryddiaeth golygu

Ceir testunau golygiedig gyda rhagymadrodd a nodiadau yn y gyfrol,

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.