Castell Caerfyrddin

safle archaeolegol rhestredig Gradd I yng Nghaerfyrddin

Codwyd Castell Caerfyrddin oddeutu 1094 gan y Norman William fitz Baldwin, o bosib ar hen safle caer Geltaidd. Fe'i lleolir yng nghanol tref Caerfyrddin yn Ne Cymru. Mae'r castell wedi'i gofrestru fel Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Gaerfyrddin (Rhif Cadw: 9507).

Castell Caerfyrddin
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1105 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr24.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.856°N 4.30569°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM008 Edit this on Wikidata
'Tyllau'r llofrudd'

Mae'r safle wedi'i ddefnyddio ers 1105. Chwalwyd y rhan fwyaf o'r castell gan Lywelyn Fawr yn 1215 ond ailgodwyd y castell a'r muriau allanol yn 1223, muriau sy'n amgylchynu hen dref Caerfyrddin, gan wneud y dref hon yn un o'r cyntaf yng Nghymru i'w chreu ar batrwm trefi caerog Normanaidd.

Yr Arglwydd Rhys golygu

Arweiniodd Rhys ap Gruffudd (1132 – 28 Ebrill 1197) a adwaenir yn arferol fel 'Yr Arglwydd Rhys' ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid yn 1196, gan gipio nifer o gestyll gan gynnwys Castell Caerfyrddin a llosgi'r dref Saesnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar Castell Glan Edw (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell.

Llywelyn Fawr golygu

Cadarnhaodd Cytundeb Heddwch Caerwrangon ym Mawrth, 1218 awdurdod Llywelyn Fawr mewn sawl ardal y tu allan i Wynedd Uwch Conwy, yn cynnwys Y Berfeddwlad, Powys Wenwynwyn, a Maldwyn. Cydnabuwyd yn ogystal ei hawl i ddal dau gastell pwysig iawn yn y de: Castell Caerfyrddin a Chastell Aberteifi.[1]

Owain Glyn Dŵr golygu

Yn 1405 bu cyrch gan fyddin Owain Glyn Dŵr ar y castell.

Owain Tudur golygu

Yn Rhyfel y Rhosynnau carcharwyd y Cymro a'r Lancastriad Owain Tudur (c. 1400 – 2 Chwefror 1461) am gyfnod gan William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. R. R. Davies, Conquest, Coexistence and Change: Wales 1063–1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1987).