Castell Glyndyfrdwy

adfeilion castell yng Nglyndyfrdwy, Sir Ddinbych

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Castell Glyndyfrdwy (hefyd Castell Glyn Dŵr neu Mwnt Owain Glyn Dŵr), Llidiart y Parc, Glyndyfrdwy, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Fe'i lleoli ger Corwen yn Sir Ddinbych (cyfeiriad grid SJ125431). Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: ME017.[1]

Castell Glyndyfrdwy
Mathadfeilion castell, castell mwnt a beili, mwnt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.978353°N 3.304164°W, 52.978046°N 3.301802°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME017 Edit this on Wikidata

Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]

Ym Medi 2010 lansiwyd prosiect i gryfhau'r mwnt ac i wella'r fynedfa iddo. Mae Cadw wedi clustnodi'r lle fel rhan o brosiect gwerth dwy filiwn o bunnoedd.[3]

Castell Glyndyfrdwy: un o gestyll mwnt a beili Owain Glyn Dŵr

Cyfeiriadau golygu

  1. Data Cadw
  2. ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2016-04-11. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]
  3. Gwefan Saesneg y Daily Post