Castell Margam

castell ym Margam, Castell-nedd Port Talbot

Plasty mawr o Cyfnod Fictoraidd ym Margam ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot yw Castell Margam.[1] Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ym Mharc Gwledig Margam yng ngofal cyngor bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Castell Margam
Mathplasty gwledig, castell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1830 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMargam Estate Edit this on Wikidata
LleoliadMargam Edit this on Wikidata
SirMargam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr59 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5628°N 3.7254°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Fe'i hadeiladwyd gan y pensaer Thomas Hopper ar gyfer Christopher Rice Mansel Talbot (1803–1890) dros gyfnod o ddeng mlynedd, rhwng 1830 a 1840, ar safle a oedd, o’r 11g hyd at ddiddymu’r mynachlogydd, yn abaty.

Er ei fod yn cael ei alw'n "gastell", mae'r adeilad mewn gwirionedd yn blasty mawr cyfforddus, yn un o lawer o gestyll "ffug" a godwyd yn y 19g yn ystod yr Adfywiad Gothig.

Arhosodd y plasty ym meddiant y teulu Talbot tan 1942, pan gafodd ei werthu i'r diwydiannwr David Evans-Bevan, a ganfu fod yr tŷ yn rhy fawr iddo fyw ynddo; wedyn aeth yr adeilad yn adfail, ac fe'i difrodwyd yn ddifrifol gan dân ym 1977. Mae'r tŷ yn dal i gael ei adfer.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Margam Castle", Gwefan Coflein; adalwyd 6 Mawrth 2020
  2. "Margam Castle", Gwefan Parc Gwledig Margam; adalwyd 6 Mawrth 2020