Castell Neuschwanstein

Mae Castell Neuschwanstein (Almaeneg: Schloss Neuschwanstein) yn balas adfywiad Romanésg 19g ar fryn creigiog uwchben pentref Hohenschwangau ger Füssen yn ne-orllewin Bafaria, Yr Almaen. Roedd y palas wedi ei gomisiynu gan Ludwig II o Bafaria fel encil ac fel teyrnged i Richard Wagner. Yn groes i'r gred gyffredin, talodd Ludwig am y palas allan o'i ffortiwn bersonol a benthyca helaeth, nid ag arian cyhoeddus Bafaria.

Castell Neuschwanstein
Mathpalas, castell, château, atyniad twristaidd, amgueddfa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1869 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSchwangau Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Uwch y môr940 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.557489°N 10.749442°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg, yr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethBafaria Edit this on Wikidata
Statws treftadaetharchitectural heritage monument in Bavaria Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganLudwig II of Bavaria Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iRichard Wagner Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddbricsen, calchfaen, Tywodfaen Edit this on Wikidata

Bwriad y palas oedd fel lloches bersonol ar gyfer y brenin meudwyaidd, ond fe'i hagorwyd i'r cyhoedd yn syth ar ôl ei farwolaeth yn 1886. Ers hynny mae dros 60 miliwn o bobl wedi ymweld â Chastell Neuschwanstein. Mae mwy na 1.3 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn, gyda hyd at 6,000 y dydd yn yr haf. Mae'r palas wedi ymddangos yn amlwg yn nifer o ffilmiau ac oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer castell Sleeping Beauty yn Disneyland ac yn ddiweddarach, strwythurau tebyg.

Golygfa panoramig o'r castell
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.