Castell Rhaeadr Gwy

Castell canoloesol a godwyd gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ar safle ger Rhaeadr Gwy yn 1177 yw Castell Rhaeadr Gwy.

Castell Rhaeadr Gwy
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhaeadr Gwy Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.300696°N 3.514511°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwRD132 Edit this on Wikidata

Codwyd y castell ar gyrion Rhaeadr Gwy yng nghantref Gwerthrynion yn 1177 gan yr Arglwydd Rhys fel rhan o ymgyrch gan Ddeheubarth am reolaeth yn y rhan yma o ganolbarth Cymru. Cyfeirir ato eto ym Mtur y Tywysogion yn y cofnod am 1194; dywedir fod Rhys wedi ailgodi'r castell ond cafodd ei ddinistrio gan arglwyddi Maelienydd. Cyfeiria Gerallt Gymro at y digwyddiad: dywed fod y castell a'r dref wedi eu llosgi fel cosb gan Duw. Ceir cyfeiriad pellach at "Gastell Gwerthrynion" yn cael ei ddifetha yn 1202, ac mae'n bosibl mai Castell Rhaeadr Gwy a olygir.

Roedd y castell yn sefyll ar graig ar lan Afon Gwy gyda ffosau wedi'u cloddio yn y graig ei hun yn ei amddiffyn. Ambell garreg a rhan o'r ffos ogleddol yw'r unig olion sydd i'w gweld ar y safle heddiw, i'r gorllewin o dref Rhaeadr Gwy.

Cyfeiriadau golygu

  • Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)