Castell a godwyd gan dywysogion Deheubarth yn ne canolbarth Ceredigion yw Castell Trefilan. Ceir yr adfeilion ar safle coediog ger ysgol pentref Trefilan, tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron (Cyfeirnod OS: SN549571).

Castell Trefilan
Mathcastell mwnt a beili, castell, mwnt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.193063°N 4.124252°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD077 Edit this on Wikidata

Ychydig iawn a wyddom am ei hanes. Yn ôl cofnod yn Brut y Tywysogion am y flwyddyn 1233, gorfennodd Maelgwn Fychan adeiladu'r castell yn y flwyddyn honno, ond ei dad Maelgwn ap Rhys a gychwynodd y gwaith, efallai yn 1231. Roedd ar safle strategol, hanner ffordd i fyny Dyffryn Aeron, yn gwarchod rhyd ar afon Aeron. Ceir yr unig gyfeiriad arall at y castell mewn llythyr at yr awdurdodau Seisnig dyddiedig 1282 sy'n dweud bod Rhys ap Maredudd wedi ymosod arno a'i losgi a rhyddhau deunaw o garcharorion o Gymry.

Castell mwnt a beili ydyw, ac mae'r domen i'w gweld heddiw ger yr ysgol ar bwys y pentref.

Llai na filltir i'r de, ar lan afon Aeron, ceir safle tybiedig lleiandy Sistersaidd Llanllŷr.

Llyfryddiaeth golygu

  • Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)