Adeiladwaith o dywod ar ffurf castell yw castell tywod. Mae fel arfer yn cael ei godi ar draeth ble ceir digonedd o dywod a lle ar ei gyfer.

Castell tywod
Delwedd:Замок из песка.jpg, Playa de Levante, Benidorm, España, 2014-07-02, DD 03.JPG
Mathcerflun Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Castell tywod syml a adeiladwyd gan ddefnyddio bwced blastig.

Y dull symlaf o godi castell tywod yw trwy lenwi bwced sydd ar ffurf castell, ei droi ben i lawr, a'i godi'n ofalus gan adael y tywod yn sefyll yn siâp y bwced. Gellir cysylltu sawl castell unigol fel eu bod yn debycach i dyrrau castell mawr, ei addurno â chregyn, cerrig, brigau neu addurniadau eraill sy'n cael eu hystyried yn addas, fel baneri bychain. Weithiau bydd y sawl sy'n adeiladu'r castell yn tyllu ffos o'i amgylch ac yna'n creu sianel i ddwr y môr ei lenwi.

Bydd y castell yn cael ei ddinistrio naill ai gan yr adeiladydd neu berson arall yn fuan ar ôl ei godi. Fel arall, bydd yn cael ei ddymchwel gan y gwynt neu'r môr.

Roedd yr hanesydd diwylliannol Harald Kimpel yn honni mai diben y castell tywod oedd gwrthweithio'r darlun o 'segurdod cywilyddus' wrth hamddena ar lan y môr.