Castell y Fenni

castell yn y Fenni, Sir Fynwy

Saif Castell y Fenni yn nhref farchnad y Fenni, Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru.[1] Cafodd y castell ei gofrestru fel Gradd l yng Ngorffennaf 1952.[2]

Castell y Fenni
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1087 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Fenni Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr63.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8199°N 3.01779°W, 51.819687°N 3.01749°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganHamelin de Ballon Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM056 Edit this on Wikidata

Saif uwch ben Afon Wysg, gan edrych i lawr ar y dyffryn arferai ei warchod. Cafwyd hyd i gestyll cynharach yn dyddio’n ôl i'r Oes Efydd, yr Oes Haearn ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain (Caer Gobannium) ychydig i'r gorllewin o safle'r castell.

Codi'r castell golygu

Mae'r castell presennol yn dyddio'n ôl i 1075 pan gafodd ei godi gan Hamelin de Balun ar orchymyn Gwilym y Gorchfygwr.

Am flynyddoedd wedyn, bu i'r castell newid dwylo rhwng y Cymry a'r Saeson. Cryfhawyd y castell yn y 13eg a'r 14g gan John Hastings, Barwn Cyntaf Hastings.

Cryfhawyd y fynedfa yn 1400 pan glywyd am chwyldro Owain Glyn Dŵr; ac er i'r dref ei hun gael ei losgi i'r llawr yn 1402, daliwyd y castell yn llwyddiannus yn erbyn ymosodiad 1402.

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu