Castellmartin

Safle

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Stagbwll a Chastellmartin, Sir Benfro, Cymru, yw Castellmartin[1] neu Castell Martin (Saesneg: Castlemartin).[2] Saif heb fod ymhell o'r arfordir, 8 km i'r de-orllewin o dref Penfro ac i'r de o Ddoc Penfro. Cyn 2011, pan ymunwyd â'r Stagbwll roedd yn gymuned ynddo'hun.

Castellmartin
Eglwys plwyf Castellmartin
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.645°N 5.015°W Edit this on Wikidata
Cod OSSR914984 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys pentref bychan Warren a tua 12 km o arfordir. O amgylch Warren mae llawer o'r tir yn eiddo i'r fyddin, sy'n ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio fel Maes Tanio Tanciau Castell Martin, sydd tua 2400 hectar o arwynebedd. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro trwy'r ardal, ond oherwydd presenoldeb y fyddin mae'n gorfod cadw yn weddol bell o'r arfordir mewn rhan o'r ardal, er ei fod yn croesi'r maes tanio gorllewinol pan nad oes tanio. Roedd poblogaeth y plwyf yn 147 yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Hanes golygu

Ymhlith hynafiaethau'r ardal mae'r castell mwnt a beili Normanaidd a roddodd ei enw i'r pentref. Roedd yr eglwys yn wreiddiol wedi ei chysegru i Sant Martin o Tours ond cafodd ei hailgysegru i Sant Mihangel a'r Holl Anghylion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-11.
  4. Gwefan Senedd y DU