Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Catherine Osler (26 Chwefror 1854 - 16 Rhagfyr 1924) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diwygiwr cymdeithasol ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Catherine Osler
Ganwyd26 Chwefror 1854 Edit this on Wikidata
Bridgwater Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1924 Edit this on Wikidata
Edgbaston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethdiwygiwr cymdeithasol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Ganed Catherine Courtauld Taylor yn Bridgwater ar 26 Chwefror 1854 a bu farw yn Edgbaston. Undodwyr oedd ei rhieni: William a Catherine Taylor, ac roeddent hefyd yn aelodau o Gymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham (Birmingham Women's Suffrage Society), ers ei sefydlu. Catherine oedd eu merch hynaf ac etholwyd hi'n swyddog o'r gymdeithas, yn drysorydd ac yn 1885 fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd.[1][2][3][4]

Priododd Alfred Osler a oedd yn rhedeg cwmni teuluol F & C Osler o Birmingham, cwmni a oedd yn enwog am ddylunio a chynhyrchu crisial cain a'r darnau godidog hynny sy'n hongian ar chandeliers; gwerthwyd hwy i bob rhan o'r byd. Roedd Alfred Osler yn aelod o'r Rhyddfrydwyr.

Ymgyrchydd dros hawliau menywod golygu

Yn 1888 cynhaliodd Ffederasiwn Ryddfrydol y Merched gynhadledd yn Birmingham a gofynnwyd i Catherine Osler lywyddu drosti.[5] Yn 1903, etholwyd hi'n Llywydd Cymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham.[6] Bedair blynedd yn ddiweddarach cyfarfu'r Emancipation Union yn Birmingham a gwahoddwyd Osler i gadeirio sesiwn lle rhannodd ei huchelgais i gael menywod i gymryd rhan mewn llywodraeth leol.

Gwrthwynebai gweithredoedd treisgar, milwriaethus rhai aelodau o fudiad y swffragét ac ysgrifennodd yn feirniadol iawn o weithredoedd rhai o aelodau o Undeb Gwleidyddol a Chymdeithasol y Merched (the Women's Social and Political Union). Er hyn, ni chytunodd a'r modd treisgar y deiliwyd gyda charcharorion benywaidd.[5] Yn wir, yn 1909, oherwydd polisi'r llywodraeth Ryddfrydol o orfodi merched oedd ar ympryd i fwyta, ymddiswyddodd fel llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y Merched, Birmingham.[4]

Yn 1911, ymunodd Osler gyda Phwyllgor Gweithredol Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint y Merched (NUWSS).[3]

Anrhydeddau golygu

Yn 1919, fel gwerthfawrogiad o'i gwaith dros ferched, derbyniodd radd Meistr gan Brifysgol Birmingham. Comisiynwyd, hefyd, darlun olew ohoni gan Edward S. Harper.[3]


Cyfeiriadau golygu

  1. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  2. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. 3.0 3.1 3.2 Elizabeth Crawford, ‘Osler, Catherine Courtauld (1854–1924)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2013 accessed 20 Tachwedd 2017
  4. 4.0 4.1 "Catherine Osler | Great British - bringing you closer to our history makers". great-british.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-12. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.
  5. 5.0 5.1 "Catherine Osler". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.
  6. "Suffrage Stories: 'From Frederick Street to Winson Green': The Birmingham Women's Suffrage Campaign". Woman and her Sphere (yn Saesneg). 22 Mawrth 2013. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.