Cavalleria rusticana

Mae Cavalleria rusticana (Eidaleg: boneddigeiddrwydd gwerinol) yn opera mewn un act gan Pietro Mascagni i libreto gan Giovanni Targioni-Tozzetti a Guido Menasci, wedi'i addasu o nofel fer a drama olynol o 1880 Giovanni Verga. Mae'n cael ei ystyried yn un o'r operâu verismo clasurol. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf ar 17 Mai 1890 yn y Teatro Costanzi yn Rhufain. Ers 1893, mae'n cael ei pherfformio'n aml ar fil dwbl sy'n cael ei alw'n "Cav / Pag," ar y cyd â Pagliacci gan Ruggero Leoncavallo. [1]

Cavalleria rusticana
Golygfa o bremière byd yr opera
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolCavalleria rusticana Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2020 Edit this on Wikidata
GenreVerismo, opera Edit this on Wikidata
CymeriadauAlfio, Santuzza, Turiddu, Nunzia, Lola, Pentrefwyr Edit this on Wikidata
LibretyddGiovanni Targioni-Tozzetti, Guido Menasci Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTeatro dell'Opera di Roma Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af17 Mai 1890 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolCavalleria rusticana Edit this on Wikidata
CyfansoddwrPietro Mascagni Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hanes cyfansoddiad golygu

 
Mascagni (canol) gyda'i libretwyr, Giovanni Targioni-Tozzetti (chwith) a Guido Menasci

Ym mis Gorffennaf 1888 cyhoeddodd y cyhoeddwr cerddoriaeth o Milan, Edoardo Sonzogno, gystadleuaeth a oedd yn agored i gyfansoddwyr ifanc o’r Eidal nad oeddent eto wedi cael opera wedi’i pherfformio ar lwyfan. Fe'u gwahoddwyd i gyflwyno opera un act a fyddai'n cael ei beirniadu gan reithgor o bum beirniad a chyfansoddwr amlwg o'r Eidal. Byddai'r tri gorau yn cael eu llwyfannu yn Rhufain ar draul Sonzogno.

Clywodd Mascagni am y gystadleuaeth ddeufis cyn y dyddiad cau a gofynnodd i'w ffrind Giovanni Targioni-Tozzetti, bardd ac athro llenyddiaeth yn Academi Llynges Frenhinol yr Eidal yn Livorno, ddarparu libreto ar ei gyfer. Dewisodd Targioni-Tozzetti Cavalleria rusticana, stori fer boblogaidd (a drama) gan Giovanni Verga, fel sylfaen i'r opera. Aeth ef a'i gydweithiwr Guido Menasci ati i gyfansoddi'r libreto, gan ei anfon i Mascagni mewn darnau, weithiau dim ond ychydig o benillion ar y tro ar gefn cerdyn post. Cyflwynwyd yr opera o'r diwedd ar y diwrnod olaf y byddai ceisiadau'n cael eu derbyn. Cyflwynwyd 73 opera i gyd, ac ar 5 Mawrth 1890, dewisodd y beirniaid y tri olaf: Labilia gan Niccola Spinelli, Rudello gan Vincenzo Ferroni a Cavalleria rusticana gan Mascagni. [2]

Hanes perfformiad golygu

Agorodd Cavalleria rusticana ar 17 Mai 1890 yn y Teatro Costanzi yn Rhufain i dŷ hanner gwag. Fodd bynnag, roedd y gynulleidfa yn cynnwys nid yn unig y beirniaid cerddoriaeth mwyaf awdurdodol yn y wlad ond hefyd y Frenhines Margherita, un oedd yn enwog am ei hoffter o gerddoriaeth dda. Roedd yn llwyddiant o'i nodiadau agoriadol. Yn dilyn cyflwyniad y tenor Roberto Stagno yr aria "O Lola" ar arddull Siciliana o du ôl i'r llen, neidiodd y gynulleidfa i'w traed gyda chymeradwyaeth byddarol na chlywyd ei thebyg ers blynyddoedd lawer. Galwyd am encôr i'r Siciliana â sawl cân arall yn yr opera. [3] Roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda Mascagni yn cael ei alw'n ôl i'r llwyfan 40 gwaith. Dyfarnwyd Gwobr Gyntaf y gystadleuaeth i'r cyfansoddwr. [3] [4]

Ym 1890, yn dilyn cyfres o berfformiadau a werthwyd allan yn y Teatro Costanzi, teithiodd yr opera ledled yr Eidal ac wedyn aeth i Berlin. Derbyniodd ei pherfformiad cyntaf yn Llundain yn Theatr Shaftesbury ar 19 Hydref 1891 a'i première yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ar 16 Mai 1892. [5]

Cafodd Cavalleria rusticana ei pherfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn y Grand Opera House Phillidelphia ar 9 Medi 1891, ac yna fe'i perfformiwyd yn Nhŷ Opera Chicago ar 30 Medi 1891. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Ninas Efrog Newydd ar 1 Hydref 1891, gyda dau berfformiad cystadleuol ar yr un diwrnod: perfformiad prynhawn yn y Casino, wedi'i gyfarwyddo gan Rudolph Aronson, a pherfformiad gyda'r nos yn y Lenox Lyceum, wedi'i gyfarwyddo gan Oscar Hammerstein . [5]

 
Gemma Bellincioni fel Santuzza, a'i gŵr, Roberto Stagno, fel Turiddu, ym première 1890 o Cavalleria rusticana

Rolau golygu

Rôl Math o lais Cast premiere, 17 Mai 1890

Arweinydd: Leopoldo Mugnone

Santuzza, merch werinol soprano Gemma Bellincioni
Turiddu, pentrefwr ifanc oedd newydd ddychwelyd o'r fyddin tenor Roberto Stagno
Lucia, ei fam contralto Federica Casali
Alfio, certmon bariton Saudsa Gaudenzio
Lola, ei wraig mezzo-soprano Annetta Gulì

Crynodeb golygu

Lle: Pentref yn Sisili yn y 19G [6]
Amser: Bore'r Pasg

Mae gŵr ifanc o'r pentref, Turiddu, wedi dychwelyd o wasanaeth milwrol i ddarganfod bod ei ddyweddi Lola wedi priodi'r certmon Alfio tra roedd i ffwrdd. [7] I ddial, mae Turiddu yn ceisio hudo Santuzza, merch ifanc yn y pentref. Wrth i'r opera ddechrau, mae Lola, wedi'i goresgyn gan ei chenfigen at Santuzza, wedi cychwyn perthynas odinebus â Turiddu.

Prif sgwâr y pentref

Oddi ar y llwyfan, clywir Turiddu yn canu can yn yr arddull siciliana, "O Lola c'hai di latti la cammisa" ("O Lola, ti sydd a'th flows mor wyn â llaeth"). Ar naill ochr y sgwâr ochr mae'r eglwys; ar y llall mae siop win Lucia a'r tŷ lle mae'n byw gyda'i mab, Turiddu. Mae'r pentrefwyr yn symud o amgylch y sgwâr, gan ganu am hyfrydwch y diwrnod o wanwyn, "Gli aranci olezzano sui verdi margini" ("Mae arogl melys yn yr awyr o'r blodau oren ar yr ymylon gwyrdd".) ac yn canu emyn i'r Forwyn Fair Fendigaid. Mae rhai pentrefwyr yn mynd i mewn i'r eglwys, ac eraill yn crwydro i ffwrdd dan barhau i ganu.

Wedi iddi gysgu gyda Turiddu mae Santuzza, yn dechrau amau ei fod o wedi ei bradychu hi gyda Lola. Yn drallodus mae'n mynd at Lucia wrth iddi ddod allan o’i thŷ. Mae Santuzza yn gofyn am Turiddu, ond mae Lucia yn ateb ei fod wedi mynd i dref arall i nôl cyflenwad o win i'r siop. Mae Santuzza dweud wrthi fod Turiddu wedi cael ei weld yn ystod y nos yn y pentref. Mae Lucia yn gwahodd hi mewn i siarad. Yr eiliad honno mae Alfio yn cyrraedd ar ei goets, yng nghwmni'r pentrefwyr. Mae'n canmol llawenydd bywyd y certmon a harddwch Lola ei briod. Mae Alfio yn gofyn i Lucia am ychydig o'i hen win gorau. Mae hi'n dweud wrtho ei fod wedi rhedeg allan ac mae Turiddu wedi mynd i ffwrdd i brynu mwy. Mae Alfio yn ateb iddo weld Turiddu yn gynnar y bore hwnnw ger ei fwthyn. Mae Lucia yn dechrau mynegi syndod, ond mae Santuzza yn ei rhwystro.

Mae Alfio yn gadael. Clywir y côr y tu mewn i'r eglwys yn canu'r Regina Coeli . Y tu allan, mae'r pentrefwyr yn canu Emyn Pasg, "Inneggiamo, il Signor non è morto" ("Gadewch inni ganu emynau, nid yw'r Arglwydd wedi marw") mae Santuzza yn ymuno yn y gân. Mae'r pentrefwyr yn mynd i mewn i'r eglwys, tra bod Santuzza a Lucia yn aros y tu allan. Mae Lucia yn gofyn i Santuzza pam y gwnaeth hi geisio cael hi i aros yn dawel pan ddywedodd Alfio ei fod wedi gweld Turiddu y bore hwnnw. Mae Santuzza yn ebychu, "Voi lo sapete" ("Rydych chi'n gwybod yn iawn") ac mae'n dweud wrth Lucia am sut y cafodd ei hudo gan Turiddu ac am ei berthynas â Lola. Mae Lucia yn cydymdeimlo â Santuzza, sy’n teimlo’n wedi ei dianrhydeddu, ar ôl cael ei hudo gan Turiddu dim ond iddo ei gadael hi er mwyn ail gynnal ei serch gyda Lola. Mae Santuzza yn teimlo na all hi fynd i mewn i'r eglwys. Mae hi'n annog Lucia i fynd i'r eglwys a gweddïo drosti. Mae Santuzza yn aros i ddisgwyl dychweliad Turiddu er mwyn pledio iddo i adael Lola a dychwelyd ati hi.

 
Mae Santuzza yn pledio gyda Turiddu i beidio mynd i gwrdd â Lola eto.
Cavalleria rusticana: Intermezzo Sinfonico

Mae Turiddu yn cyrraedd. Mae Santuzza yn ei ddwrdio am esgus ei fod wedi mynd i ffwrdd, pan oedd yn gweld Lola mewn gwirionedd. Mae Lola yn dod i'r sgwâr gan ganu. Mae hi'n gwawdio Santuzza ac yn mynd i mewn i'r eglwys. Mae Turiddu yn troi i ddilyn Lola, ond mae Santuzza yn ei annog i aros. Mae Turiddu yn ei gwthio hi i ffwrdd. Mae hi'n glynu wrtho. Mae o'n rhyddhau ei hun o'i gafael ac yn ei thaflu i'r llawr, ac yn mynd i mewn i'r eglwys. Mae Alfio yn cyrraedd gan chwilio am Lola. Dywed Santuzza wrtho fod ei wraig wedi ei fradychu â Turiddu. Mae Alfio yn tyngu cymryd vendetta (dial) sy'n peri i Santuzza edifarhau am ddatgelu'r berthynas ac yn annog Alfio i stopio, ond yn ofer.

Mae'r sgwâr yn wag wrth i'r gerddorfa chwarae'r Intermezzo enwog.

 
Mae Turiddu yn brathu clust Alfio

Daw'r pentrefwyr allan o'r eglwys. Mae Turiddu mewn hwyliau da gan ei fod gyda Lola ac mae'n ymddangos bod Santuzza wedi mynd. Mae'n gwahodd ei ffrindiau i siop win ei fam lle mae'n canu cân yfed, "Viva, il vino spumeggiante" ("Henffych well i'r gwin byrlymus!" ). Mae Alfio yn ymuno â nhw. Mae Turiddu yn cynnig gwin iddo, ond mae'n ei wrthod. Mae pawb yn deall bod helbul ar fin digwydd. Mae'r menywod yn gadael, gan fynd â Lola gyda nhw. Mae Alfio yn herio Turiddu i ymladd gornest arfog. Yn dilyn arferiad Sisil, mae'r ddau ddyn yn cofleidio, ac mae Turiddu, fel arwydd o dderbyn yr her, yn brathu clust Alfio, gan dynnu gwaed, sy'n arwydd o frwydr i'r farwolaeth. Mae Alfio yn gadael ac mae Turiddu yn galw Lucia yn ôl. Mae'n dweud wrthi ei fod yn mynd y tu allan i gael rhywfaint o awyr iach ac yn gofyn iddi fod yn fam garedig i Santuzza os na ydyw'n dychwelyd: "Un bacio, mamma! Un altro bacio! -Addio! " ("Un cusan, mam! Un cusan arall! Ffarwel! " ).

Mae Turiddu yn rhuthro allan. Mae Lucia, yn wylo ac yn crwydro'n ddi-nod gerllaw ei thŷ. Mae Santuzza yn agosáu ac yn taflu ei breichiau o'i chwmpas. Mae'r pentrefwyr yn dechrau tyrru o gwmpas. Clywir lleisiau yn y pellter ac mae dynes yn crio, "Maen nhw wedi llofruddio Turiddu!" Mae Santuzza yn llewygu a Lucia yn cwympo i freichiau'r merched y pentref.

Geler hefyd golygu

Disgyddiaeth Cavalleria rusticana

Cyfeiriadau golygu

  1. Sims 2007.
  2. Willard 1893.
  3. 3.0 3.1 Weaver 1987.
  4. Anhysbys 1945.
  5. 5.0 5.1 Kobbé 1919.
  6. "E-lyfr Project Gutenberg o Zanetto a Cavalleria Rusticana, gan Giovanni Targioni-Tozzetti, Guido Menasci, a Pietro Mascagni". www.gutenberg.org. Cyrchwyd 2021-08-30.
  7. In Italian carrettiere, presumably an owner-driver of the traditional Sicilian cart

Ffynonellau golygu

Dolenni allanol golygu