Ceffyl Gwyn Uffington

Mae Ceffyl Gwyn Uffington yn ffigwr 374 troedfedd (110 m) o hyd o geffyl gwyn wedi'i dorri o'r fawn ar lethr bryn Castell Uffington, bryngaer o Oes yr Haearn ger Y Ridgeway, yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr. Cyn newidiadau ffiniau ym 1974 roedd y bryn yn Berkshire. Dyma'r unig geffyl gwyn yn yr ardal sy'n sylweddol o hen; mae'r eraill yn gymharol fodern, wedi'u creu dim mwy na dwy neu dair canrif yn ôl. Fe'i leolir tua 5 milltir i'r de o dref Faringdon a thua'r un pellder i'r gorllewin o Wantage. Enwir y bryn y ceir y Ceffyl arno yn Fryn y Ceffyl Gwyn (White Horse Hill) a'r bryniau o gwmpas yn Fryniau'r Ceffyl Gwyn (White Horse Hills). Enwir ardal yr awdurdod lleol, Ardal Vale of White Horse, ar ei ôl hefyd.

Ceffyl Gwyn Uffington
Mathhorse hill figure, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mileniwm 1. CC Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUffington Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr261 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5777°N 1.56675°W Edit this on Wikidata
Hyd100 metr Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddsialc Edit this on Wikidata

Mae rhai ysgolheigion yn gweld cysylltiad rhwng y Ceffyl Gwyn a'r dduwies Geltaidd Epona, (Rhiannon ym Mhedair Cainc y Mabinogi) a Macha mewn chwedloniaeth Gwyddelig. Efallai fod adlais o addoliad y dduwies yn nhraddodiad Y Fari Lwyd hefyd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.