Gwleidydd Cymreig sy'n aelod o Blaid Cymru yw Cefin Arthur Campbell (ganwyd Mehefin 1958). Mae'n Aelod o'r Senedd dros rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers etholiad Senedd 2021.

Cefin Campbell
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
7 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganHelen Mary Jones
Aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin dros ward Llanfihangel Aberbythych
Deiliad
Cychwyn y swydd
3 Mai 2012
Manylion personol
GanwydMehefin 1958 (65 oed)
Glanaman
Plaid wleidyddolPlaid Cymru

Bywgraffiad golygu

Mae Campbell yn gyn-ddarlithydd gan weithio ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru yn 1991.

Yn 2008 dechreuodd Campbell cwmni ymgynghori Sbectrwm sy'n arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli prosiectau a hyfforddiant.[1]

Cafwyd ei ethol i gynrychioli ward Llanfihangel Aberbythych ar gyfer Plaid Cymru yn etholiad Cyngor Sir Gaerfyrddin 2012. Yn 2017 cafwyd ei ail ethol a ddaeth yn aelod o'r bwrdd gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.

Yn etholiad Senedd 2021 safodd Campbell yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gan dod yn drydydd gyda 6,615 o bleidleisiau.[2] Fe wnaeth hefyd sefyll ar frig y rhestr rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin a'r gyfer Plaid Cymru gan gael ei ethol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Editor (2021-04-13). "Senedd21: Cefin Campbell | Plaid Cymru | Carmarthen West and South Pembrokeshire". Swansea Bay News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. "Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro - Senedd Cymru etholaethau". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2021-05-08.
  3. "Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn addo "gweithio'n adeiladol"". Golwg360. 2021-05-08. Cyrchwyd 2021-05-08.
Senedd Cymru
Rhagflaenydd:
Helen Mary Jones
Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
2021
Olynydd:
deiliaid