Cefn Digoll

bryn (408m) ym Mhowys

Bryn 381 m yng ngogledd-ddwyrain Powys yw Cefn Digoll neu Mynydd Digoll (Saesneg: Long Mountain). Saif rhwng afon Hafren a'r ffin â Swydd Amwythig yn Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Gorddwr, a oedd yn rhan o deyrnas Powys.

Cefn Digoll
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTre-wern, Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Uwch y môr408 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.65°N 3.07°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd305 metr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Cefn Digoll, ger y Trallwng

Hanes golygu

Rhedai ffordd Rufeinig ar hyd y bryn hir.

Bu'n fan allweddol iawn yn hanes Harri Tudur. Glaniodd Harri yn Sir Benfro ar 7 Awst 1485 gyda byddin fechan o Lancastriaid alltud a Ffrancod, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, a ger Cefn Digoll ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Erbyn hyn roedd ganddo fyddin o tua 5,000. Aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart II o Loegr ar Faes Bosworth.

Cyfeiriadau golygu