Rhaglen deledu ffeithiol yw Cefn Gwlad. Fe'i darlledwyd gyntaf ar HTV Cymru cyn ei symud i S4C yn 1982.

Cefn Gwlad

DVD gan Gwmni Sain o'r gyfres deledu Cefn Gwlad (2007)
Genre Ffeithiol
Serennu Dai Jones
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Cyflwynydd y rhaglen ers ei darlledu ar S4C oedd Dai Jones, Llanilar, a roddodd ei stamp ei hun arni. Ymddeolodd o waith teledu yn 2020 wedi salwch.[1]

Y cynhyrchydd gwreiddiol oedd Geraint Rees a oedd wedi cynhyrchu ffilmiau am hanesion a chymeriadau cefn gwlad ers y 1960au ar TWW ac yna HTV Cymru.

Bwriad y sioe yw dogfennu bywyd ffermio a chefn gwlad Cymru drwy ddilyn bywydau unigolyn neu deulu. Mae'r rhaglen yn nodedig am elfennau doniol sy'n deillio o bersonoliaeth Dai Jones. Fe ddatblygodd nifer o raglenni arbennig o'r brif raglen a oedd yn fwriadol ddoniol, er enghraifft yn dilyn Dai ar deithiau dramor.[2]. Efallai mai'r enwocaf o'r rhaglenni yma oedd Dai ar y Piste[3]. Datblygwyd hefyd nifer o is-gynnyrch ee fideos, DVD a llyfrau yn sgil y rhaglen.

Yn Chwefror 2018 cyhoeddwyd y byddai criw ifanc o gyflwynwyr yn ymuno â Dai ar gyfer cyfres newydd o'r rhaglen, sef Meleri Williams, Ioan Doyle, Mari Lovgreen, Rhys Lewis ac Elis Morris.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cefn gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes y Sioe; adalwyd 22 Gorffennaf 2015
  2. "Cefn Gwlad Dramor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-22. Cyrchwyd 2015-07-21.
  3. Cefn Gwlad: Dai ar y Piste
  4.  Pobl ifanc sy'n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw. S4C (15 Chwefror 2018).