Ceitho

sant Cymreig o'r 6ed ganrif

Abad a sant oedd Ceitho (fl. 6g). Yn ôl traddodiad roedd yn un o bum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig. Gyda'i frodyr Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn, daeth yn sant; mae enw tref Llanpumsaint yn coffau'r pum sant hyn.[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 5 Awst.

Ceitho
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Swyddabad Edit this on Wikidata

Mae Ceitho yn nawddsant plwyf Llangeitho, Ceredigion, ac mae'n debyg ei bod wedi sefydlu clas neu gell meudwy yno. Ceir Ffynnon Ceitho ger pentref Llangeitho, sydd i fod yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).