Traddodiadau a diwylliant y celfyddydau gweledol yng Nghymru yw celf Cymru. Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, mae celf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngwledydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.[1]

Y Bardd, 1774, gan Thomas Jones (1742–1803).

Hanes cynnar golygu

 
Clogyn aur yr Wyddgrug, 1900–1600 CC

Daethpwyd o hyd i sawl celfyddydwaith sydd yn dyddio o gynhanes Cymru. Yn Ogof Kendrick, Llandudno darganfuwyd asgwrn gên ceffyl wedi ei addurno, a gedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig.[2] Yn 2011 daethpwyd o hyd i ysgriffiniadau ar fur ogof ym mhenrhyn Gŵyr sydd yn darlunio carw wedi ei drywanu, ac sydd yn ôl pob tebyg yn dyddio o 12,000–14,000 CC, ac felly'n un o'r gweithiau celf hynaf ym Mhrydain.[3] Mae Mantell Aur yr Wyddgrug, a gedwir hefyd yn yr Amgueddfa Brydeinig, a heulddisg Banc Ty'nddôl yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ymhlith y gweithiau celf pwysicaf o Oes yr Efydd ym Mhrydain.

Mae nifer o enghreifftiau o gelf GeltaiddOes yr Haearn wedi eu canfod yng Nghymru.[4] Mae'r darganfyddiadau o gyfnod y goncwest Rufeinig, tua 74-8 OC, o arwyddocâd arbennig. Darnau o waith metel o Lyn Cerrig Bach yn Ynys Môn a safleoedd eraill sydd yn enghreifftiau o gelf ddiweddar arddull La Tène yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae Brigwrn Capel Garmon yn waith haearn ysblennydd sydd ymhlith y rhai cywreinaf yn Ewrop.[5] Mae Cwpan Llewpart y Fenni yn dystiolaeth o gynnyrch moethus a gludwyd i Gymru gan y Rhufeiniaid yn y cyfnod wedi'r goresgyniadau.[6]

Yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, roedd yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru yn ymwneud â chelf ynysol Prydain ac Iwerddon. Ceir sawl llawysgrif goliwiedig o'r cyfnod, gan gynnwys Efengylau Henffordd ac Efengylau Caerlwytgoed o'r 8g, sydd o bosib o darddiad Cymreig.yw'r mwyaf nodedig. Gwaith Cymreig yn sicr yw Sallwyr Rhygyfarch o Dyddewi, sydd yn dangos arddull ynysol ddiweddar gyda nodwedd anarferol sef dylanwad Llychlynaidd, a geir hefyd mewn gwaith metel o'r cyfnod hwnnw.

Dim ond ambell ddarn o bensaernïaeth y cyfnod sy'n weddill. Yn wahanol i groesau Gwyddelig a meini'r Pictiaid, mae meini hirion Cymru yn defnyddio patrymau geometrig ac ysgrifen yn bennaf, yn hytrach na ffigurau. Mae meini hirion diweddarach, o'r 10g, yn portreadu Iesu Gristseintiau Cymreig. Ychydig o waith metel sydd yn goroesi o gyfnod y 5g i'r 9g yng Nghymru. Fodd bynnag, mae safleoedd archeolegol yn Ninas Powys wedi datgelu arteffactau amrywiol gan gynnwys broetshis bylchgrynion a darnau eraill o gemwaith. Cafwyd hyd i dlysau tebyg yn safle Penycorddyn-mawr, ger Abergele, yn dyddio o'r 8g. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y gwaith o adeiladu ffynhonnau sanctaidd yn arbennig o gyffredin yng Nghymru.

Pensaernïaeth bwysicaf Cymru o'r Oesoedd Canol yw'r bensaernïaeth filwrol, a adeiladwyd yn aml gan y goresgynwyr Normanaidd a Seisnig, yn enwedig y cestyll a godwyd gan y Brenin Edward I yng NgwyneddChastell Biwmares ym Môn, a gydnabyddir fel Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, a Chastell Caerffili a chestyll Llywelyn Fawr (gan gynnwys Castell Cricieth a Chastell Dolbadarn). Mae yna nifer o adfeilion mynachaidd yng Nghymru. Mae eglwysi a chadeirlannau Cymru'r Oesoedd Canol yn tueddu i fod yn syml a dirodres. Yn aml buont yn cynnwys murluniau, allorluniau a chelf grefyddol arall, ond ychydig iawn sydd wedi goroesi. Yng Nghonwy, a oedd yn dref garsiwn gan y Saeson, mae enghraifft nodedig o dŷ carreg o'r 13g.

Y Dadeni Dysg golygu

Awgryma Peter Lord i'r Dadeni Dysg gychwyn yng Nghymru yn nechrau'r 15g.[7] Cynhyrchwyd llawer o'r gelf yn yr oes hon ar gyfer yr eglwys. Er enghraifft, gan Abaty Ystrad Fflur rai o'i hen briddlechi addurniedig hyd heddiw.[8]

Er gwaethaf y dinistr eang yn ystod y Diwygiad Protestannaidd ac yn ddiweddarach dan Werinlywodraeth Lloegr, nid yw pob eglwys yng Nghymru wedi colli'r cyfan o'i gwydr lliw canoloesol. Mae'r rhain yn cynnwys Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd, Eglwys Sant Mihangel, Caerwys, Eglwys Santes Fair, Treuddyn, Eglwys Sant Elidan, Llanelidan, Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares, Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan, ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi.[9]

Cafwyd hyd i furluniau o'r 15g mewn sawl adeilad eglwysig yng Nghymru, gan gynnwys Eglwys Sant Cadog, Llancarfan[10] ac Eglwys Illtud Sant, Llanilltud Fawr (paentiad o Sant Cristoffer sydd yn dyddio o tua 1400).[11] Pan ailadeiladwyd Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont, yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn ystod y 1990au, cafwyd hyd i beintiadau wal o sawl gwahanol gyfnod, a amcangyfrifir y cynharaf o'r rhain i ddyddio o hanner cyntaf y 15g.[12] Dywed bod murluniau Llancarfan yn dweud i fod yn "ddigymar yng Nghymru".[13]

 
Portread prin gan Richard Wilson, o'i gyfnither Catherine Jones o Golomendy, tua 1740

Tŷ mawreddog o Oes Elisabeth yw Plas Mawr, a adeiladwyd gan Robert Wynn, dyn lleol a llysgennad i'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Cafodd ei adfer gan Cadw, y tu mewn a'r tu allan, i adlewyrchu ei ymddangosiad pan fe'i adeiladwyd yn ail hanner yr 16g.[14] Mae gan Gymru nifer o blastai o bob cyfnod ar ôl Oes Elisabeth, a nifer ohonynt yn arddangos portreadau, ond mae'r rhain wedi eu peintio yn bennaf yn Llundain neu ar gyfandir Ewrop.[15]

Portreadau golygu

Nid oedd arlunio portreadau yn gyffredin yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar, a theithiodd y bendefigaeth a'r bonedd o Gymru i Lundain neu ddinasoedd eraill yn Lloegr fel arfer i eistedd i gael eu peintio. Arhosodd nifer o'r portreadau hyn mewn casgliadau yng Nghymru. Cafodd Catrin o Ferain,[16] "Mam Cymru", ei beintio gan yr Iseldirwr Adriaen van Cronenburgh. Comisiynwyd y portread gan ei gŵr hi, Syr Rhisiart Clwch, masnachwr a fu'n byw am gyfnod yn Antwerp. Fe godwyd Plas Clwch ger ei dref enedigol, Dinbych, sydd yn cynnwys talcen grisiog yn yr arddull Ffleminaidd.[17] Yno mae arfbais wedi ei pheintio ar blac i nodi taw un o Farchogion y Bedd Sanctaidd oedd Clwch, ond nid oes unrhyw portreadau cyfoes o'r dyn ei hun yn goroesi.

Un o'r uchelwyr cyntaf o Gymru i gasglu peintiadau oedd William Herbert, Iarll 1af Penfro. Cedwir portread ohono, sy'n dyddio o'r 1560au, gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a briodoli i'r Iseldirwr Steven van Harwijck.[18]

Yn ddiweddarach, dechreuodd arlunwyr crefftus megis William Roos a Hugh Hughes i geisio am gomisiynau i arlunio portreadau.[19] Cedwir portread Roos o'r pregethwr Christmas Evans (1835) a phortread Hughes o William Jenkins Rees (1826) gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.[20]

Tirluniau golygu

 
Yr Wyddfa o Lyn Nantlle, Richard Wilson, tua 1766

Bu'r mwyafrif o arlunwyr goreuaf o'r 16g i'r 18g yn symud y tu allan i Gymru i weithio. Yn sgil twf arluniaeth y tirlun yng nghelf Lloegr yn y 18g, arhosodd arlunwyr Cymreig yn eu mamwlad gan fanteisio ar harddwch naturiol Cymru am destun i'w gwaith. Yr un olygfeydd a ddenodd arlunwyr o Loegr a thu hwnt i deithio i Gymru, a ddigwyddodd yn gynharach na'r rhuthr am olygfeydd mewn mannau eraill Prydain gan gynnwys Ardal y Llynnoedd ac Ucheldiroedd yr Alban. O bosib y Cymro Richard Wilson (1714-1782) oedd y tirluniwr mawr cyntaf ym Mhrydain, ond mae'n enwocaf am ei olygfeydd o'r Eidal yn hytrach na Chymru, er iddo beintio sawl tirlun pan oedd yn ymweld â'i famwlad.

Mae Thomas Jones (1742-1803), un o ddisgyblion Richard Wilson, yn uwch ei fri heddiw nag yr oedd yn ei amser ei hunan, ac yn bennaf am ei olygfeydd ddinesid a beintiodd yn yr Eidal. Gwaith clasurol ganddo yw Y Bardd (1774, Caerdydd) sydd yn amlygu cyfuniad yr Adfywiad Celtaidd a Rhamantiaeth.[21] Fe ddychwelodd i fyw yng Nghymru ar ystad y teulu, ond fe roddai'r gorau i baentio ar y cyfan. Golygfeydd mynyddig trawiadol a ddenai'r nifer fwyaf o artistaid o'r tu allan i Gymru, gan adlewyrchu'r blas am "yr aruchel" a ysgogwyd gan waith Edmund Burke (1757), er i ambell baentiad o'r fath gael ei gynhyrchu yng Nghymru cyn hynny.[22] Tueddai gweithiau cynnar i bortreadu mynyddoedd Cymru megis tirluniau "gwyllt" Eidalaidd yr 17g gan Salvator Rosa a Gaspard Dughet.[23]

 
Tirlun Cymreig o Fachlud yr Haul dros Afon gan Paul Sandby, sydd yn dangos tywydd heulocach na'r mwyafrif o dirluniau "aruchel".

Erbyn y 1770au cyhoeddwyd nifer o lyfrau taith, gan gynnwys Letters from Snowdon gan Joseph Cradock (1770) ac An Account of Some of the Most Romantic Parts of North Wales (1777). Ysgrifennodd Thomas Pennant Tour in Wales (1778) a Journey to Snowdon (1781/1783).[24] Cyhoeddwyd llyfr William Gilpin o'i daith yn ardaloedd hardd de Cymru ac Afon Gwy yn 1782. Teithiodd Paul Sandby i Gymru yn gyntaf yn 1770, ac y 1773 fe deithiodd o amgylch de Cymru gyda Syr Joseph Banks. Cyhoeddodd Sandby gyfres o acwatintau o dirlun Cymru ar gais Banks. Dyma enghraifft gynnar o sawl argraffiad darluniedig ar bwnc Cymru, a oedd yn fwyfwy ennill arian i'r arlunwyr.

 
Joseph Wright o Derby, Tirlun ger Beddgelert, Gogledd Cymru, c. 1790–5 1790-5

Newidiodd safbwyntiau am deithiau hamdden yn yr oes hon. Dechreuodd arlunwyr gweld teithiau trafferthus a thywydd tymhestlog yn rheswm i beintio'r tirlun. Er enghraifft, darlunir cerbyd yn brwydro i esgyn fforff fynyddig yn Phaeton mewn Storm (1798) gan Julius Caesar Ibbetson. Mae neges ar gefn y paentiad gan yr arlunydd sydd yn cofnodi i'r olygfa ddigwydd pan oedd yn teithio yng Nghymru gyda John "Warwick" Smith a'r uchelwr Robert Fulk Greville.[25] Ymwelodd Ibbetson â Chymru yn aml, ac ef oedd un o'r arlunwyr cyntaf i ddarlunio'r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, a golygfeydd o fywyd y wlad.

Tueddai arlunwyr i ymweld â gogledd Cymru yn hytrach na'r de. Aeth yr arlunydd dyfrlliwiau Jon Sell Cotman ar daith fraslunio yn 1800, gan ddilyn llwybr o Fryste yn Lloegr ar hyd Dyffryn Gwy, trwy Sir Frycheiniog i Lanymddyfri ac i'r gogledd i Aberystwyth. Yn Nghonwy, fe ymunodd â grŵp o arlunwyr a gasglwyd o amgylch yr amatur Syr George Beaumont ac efallai y bu'n cyfarfod Thomas Girtin yno, ac yna fe wnaeth parhau i Gaernarfon a Llangollen. Dilynodd ail daith ganddo yn 1802, a pharhaodd Cotman i ddefnyddio motiffau o'i frasluniau o Gymru drwy gydol ei yrfa.[26] Ymhlith yr arlunwyr eraill oedd yn aml yng Nghymru yn y cyfnod hwn oedd Francis Towne, y brodyr Cornelius a John Varley a disgyblion John Copley Fielding a David Cox. Ymwelodd hyd yn oed y gwawdlunwyr Thomas Rowlandson a Henry Wigstead â Chymru, a chyhoeddasant Remarks on a Tour to North and South Wales, in the Year 1797.[27][28]

Am gyfnod hir roedd teithio i gyfandir Ewrop yn amhosib i Gymry, Saeson ac Albanwyr oherwydd Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc a Rhyfeloedd Napoleon, ac felly cynyddodd y nifer o ymwelwyr i Gymru o rannau eraill Prydain. Aeth J. M. W. Turner ar ei daith estynedig gyntaf i dde Cymru a'r canolbarth yn 1792, ac yna i'r gogledd yn 1794 a Chymru gyfan yn 1798.[29] Ysbrydolwyd nifer o'i beintiadau a wnaeth yn Llundain gan ei deithiau yng Nghymru. Arddangoswyd ei ddyfrlliw o fachlud haul dros Gastell Caernarfon yn yr Academi Frenhinol yn 1799, ynghyd â pheintiad olew o'r un olygfa. Yn 1800 fe arddangosai golygfa arall o'r un castell, gyda bardd yn y tu blaen yn canu am ddinistr y wlad o ganlyniad i oresgyniad Edward I. O bosib hwn oedd y dyfrlliw mawr cyntaf a arddangoswyd ar bwnc hanesyddol.[30]

Yr 19g a'r 20g golygu

 
David Cox, Angladd Cymreig, tua. 1850

Parhaodd yn anodd i arlunwyr gynnal eu hunain yn ariannol yn y 19g a dechrau'r 20g os oeddynt yn dibynnu ar y farchnad gelf yng Nghymru. Mae cyfrifiad 1851 yn cofnodi dim ond 136 o bobl a oedd yn nodi taw "artist" oedd eu galwedigaeth, allan o boblogaeth o 945,000, a 50 eraill yn gweithio yn y celfyddydau cain megis ysgythru.[31] Sefydlwyd nifer o ysgolion celf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i ddeddf seneddol yn 1857, ac agorodd Ysgol Gelf Caerdydd yn 1865. Cyn hynny, nodai adroddiad blynyddol Adran Wyddoniaeth a Chelf y llywodraeth yn 1855 bod ysgolion celf mawr mewn nifer o ddinasoedd y Deyrnas Unedig, ond nid yr un ohonynt yng Nghymru.[32] Sefydlwyd "Ysgolion Celf Lleol" yn 1853 yn Llanelli a Merthyr Tudful, ond roedd y ddwy ohonynt wedi cau'n barod. Parhaodd yr ysgolion celf yn Abertawe a Chaerfyrddin, yn ôl adroddiad 1855, a chafodd cais ei wneud gan y Fflint i sefydlu ysgol o'r fath. Roedd "Ysgolion Darlunio" yn Aberdâr a Bangor, ond dim yr un sefydliad addysg gelf o gwbl yng Nghaerdydd.[33] Fodd bynnag, addysgu plant yn bennaf oedd yr ysgolion hyn i gyd cyn 1857, neu'n hyfforddio dylunio diwydiannol neu'r "system De Kensington" ar gyfer athrawon.[34]

 
Mansel Lewis, Eryri

Yn aml, roedd rhaid i raddedigion y colegau celf yng Nghymru adael y wlad i weithio. Teithiodd arlunwyr safadwy o wleydd eraill i Gymru, yn enwedig yn yr haf. Yn eu plith oedd y tirluniwr o Sais David Cox, a dreuliodd sawl haf ym Metws-y-Coed, y Sais Henry Clarence Whaite a'r Almaenwr Hubert von Herkomer a oedd yn briod i Gymraes. Parhaodd y tirlun yn ganolbwynt i'r arlunwyr hyn, er i ambell un megis y Cymro Charles William Mansel Lewis beintio'r werin a phobl wrth eu gwaith. "Gwladfa arlunwyr Betws-y-Coed" oedd un o'r grwpiau i ffurfio'r Academi Frenhinol Gymreig yn 1881. Arddangosfa yw'r Academi yn hytrach nag ysgol, a chafodd ei lleoli ym Mhlas Mawr nes iddi symud i Gonwy yn 1994.

[35] Cynhyrchodd y cerflunwyr John Evan Thomas (1810-1873) a Syr William Goscombe John (1860-1952) sawl gwaith ar gomisiwn yng Nghymru, er iddynt ymsefydlu yn Llundain. Roedd hyd yn oed Christopher Williams (1873-1934), a ganolbwyntiodd ar bynciau benderfynol Cymreig, wedi ei leoli yn Llundain. Gyrfaoedd llwyddiannus iawn a gafwyd Thomas E. Stephens (1886-1966) yn yr Unol Daleithiau ac Andrew Vicari (1938-2016) yn Sawdi Arabia a Ffrainc. Arlunydd o dras Gymreig oedd Syr Frank Brangwyn, er iddo dreulio ond ychydig o amser yng Nghymru.

Efallai yr enwocaf o'r arlunwyr a anwyd yng Nghymru yw Augustus John a'i chwaer Gwen John, er y buont yn byw yn amlaf yn Llundain ac ym Mharis. Bu'r tirlunwyr Syr Kyffin Williams (1918-2006) a Peter Prendergast (1946-2007) yn byw yng Nghymru am y rhan fwyaf o'u hoes, er yr oeddynt mewn cysylltiad â'r byd celf ehangach. Cymerodd Ceri Richards ran ym myd celf Cymru fel athro yng Nghaerdydd, a chynhyrchodd sawl peintiad ffiguraidd mewn arddulliau rhyngwladol gan gynnwys Swrealaeth. Mae artistiaid amrywiol wedi symud i Gymru, fel arfer yn y cefn gwlad. Arddangosir paentiadau o Gaerdydd o'r cyfnod 1893-97 gan yr arlunydd Americanaidd Lionel Walden mewn amgueddfeydd yng Nghaerdydd a Paris.[36] Ymhlith yr artistiaid i symud i Gymru oedd Eric Gill, yr Eingl-Gymro David Jones, a'r cerflunydd Jonah Jones. Cylch deallusol o Abertawe oedd y Kardomah Gang gan gynnwys y bardd Dylan Thomas, y bardd a'r artist Vernon Watkins, a'r arlunydd Alfred Janes.

Yn raddol fe wnaeth y sefyllfa wella ar ôl yr Ail Ryfel Byd wrth i grwpiau celf newydd ymddangos. Sefydlwyd Grŵp De Cymru yn 1948, a elwir heddiw yn Y Grŵp Cymreig.[37][38][39][40][41] Cychwynnodd y grŵp mewn ymateb i gynrychiolaeth wan y de gan yr Academi Frenhinol. Yn 1956 daeth Grŵp 56 Cymru i'r amlwg,[42] gyda'r nod o hyrwyddo celf Gymreig fodern y tu hwnt i ffiniau Cymru.[43] Hefyd yn y cymoedd diwydiannol sefydlwyd y Dowlais Settlement yn y 1940au i ddaparu gwersi celf a gweithgareddau a Grŵp y Rhondda gan fyfyrwyr celf yn y 1950au. Yr artist mwyaf nodedig o Grŵp y Rhondda oedd Ernest Zobole, a greodd celf fynegiannol sydd yn cyfochri adeiladwaith diwylliannol y cymoedd â bryniau gwyrddion y tirlun.[44] Yn y 1970au, fe ffurfiodd Paul Davies grŵp gelf radicalaidd o'r enw Beca, mewn ymateb yn rhannol i foddi Capel Celyn.[45] Defnyddiodd arlunwyr Beca gymysgedd o fynegiant artistig, gan gynnwys celf osod, peintio, cerflunwaith a pherfformiad, gan ymgysylltu ag iaith, yr amgylchedd a'r tir.[46]

Y celfyddydau addurnol golygu

 
Jwg hufen ar ffurf buwch, 1820–40, o bosib gan gwmni Cambrian Pottery

Bu sawl crochendy nodedig yn ne Cymru yn y 18g a'r 19g, gan gynnwys y Cambrian Pottery (1764-1870) yn Abertawe a Chrochendy Nantgarw ger Caerdydd, a oedd yn cynhyrchu porslen cywrain o 1813 i 1822 a chrochenwaith ymarferol nes 1920. Er ei enw, nid yw crochenwaith Portmeirion erioed wedi ei gynhyrchu yng Nghymru.

Er gwaethaf y ffaith bod symiau sylweddol o arian (ar y cyd â phlwm), a symiau llawer llai o aur, wedi eu cloddio yng Nghymru, prin oedd y gofaint arian yng Nghymru yn y Cyfnod Modern Cynnar. Nid oedd yn helpu bod y Goron Brydeinig yn cymryd perchenogaeth o fwynfeydd metelau gwerthfawr, a ddefnyddid yn bennaf i fathu arian, ac ambell ddarn arian wedi ei marcio â phlu Tywysog Cymru i nodi ei darddiad. Aeth y mwyafrif o uchelwyr Cymru i Loegr am eu pethau arian.

Celf gyfoes golygu

Mae celf gyfoes Cymru yn hynod o amrywiol, ac yn cynnwys aelodau'r Grŵp Cymreig, Grŵp 56 Cymru, yr Academi Frenhinol Gymreig, ac artistiaid nad ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw grŵp benodol. Yn eu plith mae celf haniaethol Brendan Stuart Burns[47] a Martyn Jones, celf ffiguraidd, fynegiannol gan Shani Rhys James, Clive Hicks-Jenkins a Rhŷn Williams, celf wleidyddol Iwan Bala ac Ivor Davies, a chelf bop gan Ken Elias. Nodir celf gyfoes Cymru am ei hamrywiaeth yn hytrach nag unrhyw agenda neu nodweddion penodoll. Fodd bynnag, mae arlunwyr yn parhau i gynrychioli tirlun Cymru gan ddefnyddio technegau mynegiannol ac haniaethol, megis gwaith David Tress, ac arddulliau traddodiadol er enghraifft gwaith Rob Piercy. Gall y tirlun rhoi cyfle i artistiaid lunio siapiau ysbrydoledig a newidiadau golau, ac o bosib grymoedd y farchnad sydd yn cadw'r tirlun yn destun poblogaidd yng nghelf Cymru.

Celf gysyniadol golygu

 
"B for Defiance" gan David Garner

Arferir celf gysyniadol yng Nghymru gan sawl artist llwyddiannus, gan gynnwys Bedwyr Williams a David Garner ynghyd ag artistiaid perfformio megis y grŵp TRACE,[48][49] sydd yn creu ac yn arddangos gwaith yng Nghymru a thu hwnt. Mae nifer o orielau Cymru yn canolbwyntio ar gelf gysyniadol, a'r mwyaf arwyddocaol ohonynt yw Mostyn[50] yng ngogledd Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter a g|39[51] yn ne Cymru. Mae tueddiad sylweddol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf i ddyfarnu'r Fedal Aur yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i artistiaid sy'n defnyddio dulliau cysyniadol megis celf osod.[52] Cafodd enw rhyngwladol Cymru ym myd celf gysyniadol a chelf osod ei gryfhau gan sefydliad Gwobr Artes Mundi yn 2003 a phresenoldeb y wlad yn y Biennale yn Fenis.

Artes Mundi a'r Biennale golygu

Ers 2003, cynhelir seremoni wobrwyo'r Artes Mundi bob dwy flynedd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Hon yw un o'r gwobrau celf mwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda gwobr ariannol o £40,000 i'r enillydd.[53] Er i'r wobr gynnwys artistiaid sydd yn defnyddio cyfryngau traddodiadol, megis peintio, fel arfer mae'r wobr yn ymwneud â chelf gysyniadol. Mae'r wobr yn agored i artistiaid ar draws y byd,[54][55][56] ac hyd yn hyn dim ond dau enillydd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru (Tim Davies o Sir Benfro[57] a Sue Williams a aned yng Nghernyw).[58]

Mae Cymru wedi cymryd rhan yn arddangosfa'r Biennale y Fenis ers 2003 gyda phabell ei hunan[59][60] ac wedi arddangos gwaith gan artistiaid cysyniadol o Gymru gan gynnwys John Cale yn 2009,[61] Tim Davies yn 2011[62] a Bedwyr Williams yn 2013.[63]

Arlunwyr Cymreig golygu

Rhestr artistiaid o Gymru

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Houseley explores the lack of a clear sense of "Welsh art" among contemporary artists and in Wales generally. See also Morgan, 371–372.
  2. Kendrick's Cave BM touring exhibition Archifwyd 2012-10-22 yn y Peiriant Wayback., BM Highlights Archifwyd 2012-10-22 yn y Peiriant Wayback.
  3. "Carving found in Gower cave could be oldest rock art", BBC News online, South-West Wales, July 25, 2011
  4. "Celtic Art in Iron Age Wales". National Museum of Wales. 3 May 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-13. Cyrchwyd 30 August 2011.
  5. "Stunning ironwork firedog uncovered in farmers field". National Museum of Wales. 4 May 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-05. Cyrchwyd 30 August 2011.
  6. "Exquisite Roman treasure gives up its secrets". National Museum of Wales. 9 September 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-10. Cyrchwyd 30 August 2011.
  7. "Art historian Peter Lord talks The Tradition: A New History of Welsh Art: "It's a book for everyone" ", South Wales Evening Post, 7 March 2016. Accessed 3 April 2016
  8. "Strata Florida Abbey". Cadw. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-12. Cyrchwyd 17 May 2016.
  9. "Medieval fragments". Stained Glass in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-02. Cyrchwyd 17 May 2016.
  10. "Welsh church uncovers stunning medieval wall paintings", BBC News, 6 December 2013. Accessed 3 April 2016
  11. Llantwit Major Historical Society. "St. Illtud's Church". Cyrchwyd 27 February 2014.
  12. Tom Organ, "Reconstructing Medieval Wall Paintings at St Teilo's", www.building.conservation.com. Accessed 3 April 2016
  13. Claire Miller (28 March 2013). "'Mind-blowing' medieval art is unveiled in church". WalesOnline. Cyrchwyd 17 May 2016.
  14. Cadw: Plas Mawr Archifwyd 2016-01-07 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 3 April 2016
  15. ""Faces of Wales" from the National Museum of Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-13. Cyrchwyd 2018-09-06.
  16. National Museum of Wales: Katheryn of Berain. Accessed 2 April 2016
  17. British Listed Buildings: Plas Clough, Denbigh. Accessed 3 April 2016
  18. National Museum of Wales - William Herbert, 1st Earl of Pembroke. Accessed 3 April 2016
  19. National Library of Wales: Paintings and Drawings Archifwyd 2016-08-05 yn y Peiriant Wayback.. Accessed 18 April 2016
  20. Art Collections Online: Hugh Hughes. National Museum of Wales. Accessed 18 April 2016
  21. NMOW, Welsh Artists of the 18th Century[dolen marw]. Though mainly known as a portraitist, John Downman, born and died in Wales, is also noted for unusually realistic Italian townscape studies, and some Welsh landscapes.
  22. Rosenthal, 52–64
  23. Rosenthal, 56
  24. Rosenthal, 61
  25. Rosenthal, 52 & 54. Image of Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. Phaeton in a Thunderstorm
  26. Holcomb, 8
  27. Wigstead, Henry (1800). Remarks on a Tour to North and South Wales: In the Year 1797. W. Wigstead.
  28. (Saesneg) Hayes, John. "Rowlandson, Thomas". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/24221.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)(Subscription or UK public library membership required.)(Saesneg) Hayes, John. "Rowlandson, Thomas". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/24221.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  29. Wilton & Lyles, 326-7
  30. Wilton & Lyles,pp. 176 & 260. Respectively: Private Collection, Mellon Centre for British Art, Tate.
  31. Harvey, John, The art of piety: the visual culture of Welsh Nonconformity, p.75, University of Wales Press, 1995, ISBN 0-7083-1298-5, ISBN 978-0-7083-1298-8
  32. 1855, Table p. xxii
  33. 1855, Appendix A, pp. 21–26
  34. 1855, pp. xxii–xxx
  35. "Royal Cambrian Academy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-23. Cyrchwyd 2018-09-06.
  36. "National Museum of Wales, Walden". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-06. Cyrchwyd 2018-09-06.
  37. [1] The Welsh Group website. Retrieved 2015-01-20.
  38. Karen Price, "Art group marking 60 creative years", WalesOnline, 21 November 2008. Retrieved 2013-04-23.
  39. David Moore, Mapping the Welsh Group at Sixty: The Exhibition Archifwyd 2013-01-05 yn y Peiriant Wayback., Planet Online. Retrieved 2013-04-23.
  40. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-18. Cyrchwyd 2018-09-06.
  41. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-03. Cyrchwyd 2018-09-06.
  42. Peter Wakelin, “50 years of the Welsh Group", National Museum of Wales (1999), ISBN 0-7200-0472-1
  43. Peter Wakelin, "50 years of the Welsh Group", National Museum of Wales (1999), pp. 39–43, ISBN 0-7200-0472-1
  44. "Walesart, Ernest Zobole". BBC Wales online. Cyrchwyd 23 October 2010.
  45. "Art in Wales: Politics of Engagement or Engagement with Politics?". artcornwall.org. Cyrchwyd 23 October 2010.
  46. Davies (2008) p. 56
  47. "Brendan Stuart Burns". Arts Council in Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Cyrchwyd 14 April 2016.
  48. http://huwdavidjones.wordpress.com/2008/08/01/trace-displaced-gwaithwork/
  49. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-09-06.
  50. http://www.mostyn.org/
  51. http://www.g39.org/
  52. http://huwdavidjones.wordpress.com/2008/08/01/art-at-the-national-eisteddfod-of-wales/
  53. http://www.bbc.co.uk/blogs/wales/posts/artes-mundi-5-at-national-museum-cardiff
  54. http://www.artesmundi.org/
  55. http://www.walesartsreview.org/artes-mundi-5-national-museum-cardiff/
  56. http://www.walesonline.co.uk/all-about/artes%20mundi
  57. http://www.artesmundi.org/en/exhibitions-prizes/artes-mundi-one[dolen marw]
  58. http://www.bbc.co.uk/wales/arts/sites/sue-williams/
  59. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-06. Cyrchwyd 2018-09-06.
  60. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-13. Cyrchwyd 2018-09-06.
  61. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-03. Cyrchwyd 2018-09-06.
  62. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-29. Cyrchwyd 2018-09-06.
  63. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-22736582

Ffynonellau golygu

  • Adele M Holcomb, John Sell Cotman, 1978, British Museum Publications ISBN 07141800410714180041/5x
  • Housley, William. Artists, Wales, Narrative and Devolution, in Devolution and identity, eds John Wilson, Karyn Stapleton, 2006, Ashgate Publishing, ISBN 0-7546-4479-00-7546-4479-0, ISBN 978-0-7546-4479-8978-0-7546-4479-8, google books
  • Morgan, Kenneth O., Rebirth of a Nation: Wales 1880–1980, Volume 6 of History of Wales, Oxford University Press, 1982, ISBN 0-19-821760-90-19-821760-9, ISBN 978-0-19-821760-2978-0-19-821760-2, google books
  • Rosenthal, Michael, British Landscape Painting, 1982, Phaidon Press, London
  • Wakelin, Peter, Creu cymuned o arlunwyr: 50 mlynedd o'r Grŵp Cymreig/Creating an Art Community, 50 Years of the Welsh Group, National Museum of Wales, 1999, ISBN 0-7200-0472-10-7200-0472-1, ISBN 978-0-7200-0472-4978-0-7200-0472-4, google books
  • "1855" – Report of the Department of Science and Art of the Committee of Council on Education: with appendix : presented to both Houses of Parliament by command of Her Majesty, Department of Science and Art, H.M.S.O., 1855, online text
  • Andrew Wilton & Anne Lyles, The Great Age of British Watercolours (1750–1880), 1993, Prestel, ISBN 3-7913-1254-53-7913-1254-5

Darllen pellach golygu

  • Lord, Peter, Imaging the nation, Volume 2 of Visual culture of Wales, University of Wales Press, 2000, ISBN 0-7083-1587-90-7083-1587-9, ISBN 978-0-7083-1587-3978-0-7083-1587-3
  • Lord, Peter, The Betws y Coed Artists' Colony: Clarence Whaite and the Welsh Art World, 2009, Coast and Country Productions Ltd, ISBN 1-907163-06-91-907163-06-9
  • Rowan, Eric, Art in Wales: an illustrated history, 1850–1980, Welsh Arts Council, University of Wales Press, 1985,

Alan Torjussen, "A Wales Art Collection - Casgliad Celf Cymru", bilingual art education project for schools and adults (A3 cards, A6 cards, CD Rom), Genesis 2014, ISBN 978-0-9535202-7-5978-0-9535202-7-5 etc.

Alan Torjussen, "Teaching Art in Wales - Dysgu Celf yng Nghymru", bilingual art education project for schools and adults (A3 cards, teachers book, videos), Genesis & University of Wales Press 1997

Dolenni allanol golygu