Cemais Comawndwr

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yng nghymuned Gwehelog Fawr, Sir Fynwy, Cymru, yw Cemais Comawndwr[1] (Saesneg: Kemeys Commander).[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir, tua 3 milltir (5 km) i'r gogledd-orllewin o Frynbuga, fymryn i'r de o'r Betws Newydd.

Cemais Comawndwr
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7383°N 2.9428°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO348047 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Geirdarddiad golygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd nawdd yr eglwys yn nwylo'r Templariaid (Urdd y Deml) ac roedd yn commandery, fel y gelwid rhai o dai'r Urdd. Pasiodd i ddwylo Marchogion yr Ysbyty ac yn yr 17g roedd yr urdd honno yn ennill £2 13s. 4c. y flwyddyn o'i thiroedd demesne yn y plwyf.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Hydref 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato