Mae cemotherapi yn golygu defnyddio meddyginiaethau i ddinistrio celloedd canser. Efo cemotherapi, mae’r meddyginiaethau yn mynd yn syth i lif y gwaed i ymosod ar y celloedd canser ble bynnag maen nhw, a hynny tu allan i’ch ysgyfaint hefyd. Mae tystiolaeth mai’r cyffur cemotherapi mwyaf effeithiol yw pemetrexed, sydd hefyd yn cael ei alw’n Alimta, ochr yn ochr ag ail gyffur.

Cemotherapi
Mathtriniaeth cancer, chemiotherapy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Merch ifanc yn derbyn Cemotherapi

Effeithiau andwyol golygu

Mae cemotherapi hefyd yn effeithio ar gelloedd normal, sy’n golygu bod sgil-effeithiau tymor byr yn gyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys colli gwallt, teimlo’n sâl, ac anaemia (pad nad oes digon o haearn yn eich corff). Efallai bydd mwy o siawns i chi ddal haint hefyd. Mae oncolegyddion wastad yn ceisio lleihau’r sgil-effeithiau hyn cymaint â phosibl. Mae meddyginiaethau cemotherapi yn cael eu rhoi drwy ddrip, dyfais sy’n rhoi hylif yn e ich gwythïen yn ara’ deg, neu drwy chwistrelliadau a thabledi. Fel arfer, fe gewch chi ddau gwrs neu ‘gylch’ ac yna sgan CT arall i weld sut rydych chi’n ymateb i’r driniaeth. Os yw’r cemotherapi yn gweithio, efallai gewch chi gwrs pob tair wythnos, gyda chyfanswm o bedwar i chwe chwrs.

Cyfeiriadau golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!