Mae cennin yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Gweler hefyd Cennin (gwahaniaethu).
Cennin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Amaryllidaceae
Is-deulu: Allioideae
Genws: Allium
Rhywogaeth: A. ampeloprasum
Amrywiad: A. ampeloprasum var. porrum
Enw trienwol
Allium ampeloprasum var. porrum
(L.) J. Gay
Cyfystyron

Allium porrum

Llysieuyn sydd yn perthyn i'r un teulu o blanhigion â nionyn yw cenhinen (Allium ampeloprasum var. porrum neu Allium porrum). Defnyddir i wneud cawl cennin.

Symbol cenedlaethol Cymreig golygu

 
Plant y ffotograffydd Geoff Charles yn gwisgo'u cennin ar Ddydd Gŵyl Dewi 1957.

Dim ond yn ddiweddar y daeth y genhinen Bedr yn rhyw fath o arwyddlun cenedlaethol Cymreig. Y Genhinen (leek) ydi’r un go iawn? Mae hanes y genhinen fel arwyddlun i’r Cymry yn mynd yn ôl i droad y 5g, pan fu i Dewi Sant gynghori’r Cymry cyn brwydr fawr oedd ar fin digwydd rhyngddynt â’r Sacsoniaid paganaidd y dylsai’r milwyr Cymreig wisgo cenhinen yn eu helmed er mwyn medru nabod ei gilydd yn haws – a’r Cymry enillodd hefyd. Roedd y Cymry’n ei gwisgo hefyd ym mrwydrau Crécy ag Agincourt yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Ceir llawer o hen ryseitiau, fel rhai Meddygon Myddfai o’r 12g yn sôn bod y genhinen yn dda nid yn unig i atal gwaedu ac asio esgyrn ond fe fyddai rhwbio sug cennin dros y corff yn arbed milwyr mewn brwydr. Dim rhyfedd i’r genhinen gael ei mabwysiadu fel bathodyn cap gan y Gatrawd Gymreig. Rhan o'r seremoni dderbyn, pan fyddai recriwtiaid ifanc yn cael eu derbyn i’r Gatrawd, fyddai iddynt fwyta cenhinen amrwd ar Ddydd Gŵyl Dewi (cyn i’r Catrodau Cymreig gael eu huno yn 2006).

Sonia Shakespeare yn ei ddrama Henry V am y Cymry yn gwisgo cenhinen cyn brwydr Poitiers: "If your majesty is remembered of it, the Welshmen did good service...wearing leeks in their Monmouth caps, which your majesty know, to this hour is an honourable badge of the service, and I do believe your majesty takes no scorn to wear the leek upon St. Tavy’s Day" meddai Fluellen. A phan aeth Pistol ati i wneud hwyl am ben Fluellen am wisgo cenhinen yn ei het, fe heriodd Fluellen ef i fwyta’r planhigyn. Pan wrthododd Pistol, gan ddweud, "Not for Cadwallader and all his goats", fe wylltiodd y Cymro ac ar ôl rhoi cweir i Pistol fe’i gorfododd i fwyta’r genhinen yn ei chrynswth, nes oedd dagrau yn rhedeg lawr ei ruddiau.

Ond mae’n debyg mai’r prif reswm pam fod y genhinen mor bwysig i'r Cymry fel cenedl ydy bod yr hen Gymry yn alluog iawn am ei thyfu hi, a bod cawl cennin wedi bod yn ganolog i’w bwydlen ar hyd y canrifoedd. Ac yn enwedig, ar un amser, dros gyfnod y Grawys, sef yr ympryd eglwysig 40 diwrnod rhwng Dydd Mawrth Ynyd a’r Pasg. Mae cystadlaethau tyfu’r genhinen fwyaf yn boblogaidd mewn sioeau garddwriaethol. Ceir dau brif ddosbarth – y Cennin Hir (hir a main) a’r Cennin Pot (byr a thew) – ac weithiau ddosbarthiadau rhyngddynt.

Aeth pobl barchus ddiwedd y 19g i ystyried y Genhinen braidd yn "gomon", ac fe aeth llawer, yn enwedig y merched, i wisgo cenhinen Bedr ar Ddygwyl Dewi yn hytrach na’r genhinen draddodiadol. Fe wnaeth David Lloyd George ei ran hefyd, oherwydd dyna oedd o yn ei wisgo ar 1 Mawrth. Ymddangosodd yn gyffredin ar ddogfennau swyddogol oedd yn ymwneud â Chymru o hynny ymlaen.[1]

Rhinweddau meddygol golygu

Mae cennin yn llesol at yr arennau ac at ddolur rhydd.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Addasiad o ysgrif a ddarlledwyd ar ‘Galwad Cynnar’, Radio Cymru, Mawrth 4ydd, 2006 gan Twm Elias (ym Mwletin Llên Natur 25 [1])
  2. Llysiau Rhinweddol, gan Ann Jenkins, Gwasg Gomer, 1982.