Swydd wleidyddol yng Ngweriniaeth Rhufain oedd Censor. Byddai dau censor yn cael eu hethol gan y comitia centuriata, dan lywyddiaeth un o'r ddau Gonswl. Roedd y ddau censor yn gyfrifol am gynnal cyfrifiad o'r boblogaeth, am warchod moesoldeb gymdeithasol ac am arolygu rhai agweddau ariannol.

Ar y cychwyn, roedd yr hawl i weithredu fel censor wedi ei roi i'r ddau gonswl, a allai apwyntio rhywun arall i wneud y gwaith. Wedi i'r censoriaid orffen eu gwaith, cynhelid seremoni burhau a elwid yn Lustrum. Yn nes ymlaen, etholid y ddau censor o blith seneddwyr oedd eisoes wedi dal swydd conswl. Byddent yn dal y swydd am ddeunaw mis.

Dan yr ymerodraeth, gwnaeth Augustus i ffwrdd a'r swydd, gan gymeryd y pwerau ei hun.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato