Cerddoriaeth hen ffasiwn

Is-genre o gerddoriaeth werin Americanaidd yw cerddoriaeth hen ffasiwn[1] (Saesneg: old-time music).

The Bog Trotters Band, band llinynnol o Virginia, ym 1937. Awtodelyn yw'r offeryn ar y chwith.

Datblygodd y term Saesneg old-time music yn y 1920au i ddisgrifio traddodiad cerddorol y cymunedau Eingl-Geltaidd yn Ne'r Unol Daleithiau, yn bennaf Mynyddoedd Appalachia. Cymysgedd o gerddoriaeth werin setlwyr Prydain ac Iwerddon gyda dylanwad y sioeau minstrel oedd hwn. Etifeddiaeth y dylanwadau hyn oedd caneuon werin a baledi o Loegr, Iwerddon, Cymru, a'r Alban, a brawddegu a thrawsacennu Affricanaidd-Americanaidd.[2]

Prif offerynnau'r math hwn o gerddoriaeth yw dwlsimer Appalachia, y ffidl a'r banjo. Ar ddiwedd y 19g, o ganlyniad i fasgynhyrchu rhad, daeth y gitâr a'r mandolin yn rhan o'r traddodiad hefyd. Pwrpas cerddoriaeth hen ffasiwn oedd i adlonni a chysuro cymunedau'r De. Cyfeiria'r caneuon at leoedd, crefydd, bywyd diwylliannol, a gwaith yn Appalachia ac ardaloedd cyfagos. Bu perthynas gryf rhwng cerddoriaeth hen ffasiwn a dawnsiau gwerin, megis y ddawns sgwâr.[2]

Ar ddechrau'r 20g dechreuodd y syniad o gerddoriaeth hen ffasiwn fel genre ar wahân i fathau eraill o gerddoriaeth, yn enwedig canu'r felan. Gwnaed recordiadau hen ffasiwn poblogaidd o'r 1920au ymlaen gan Fiddlin' John Carson, y Teulu Carter ac eraill. Gosododd cerddoriaeth hen ffasiwn sail i ganu gwlad ac yn hwyrach canu'r Tir Glas.

Bascom Lamar Lunsford yn canu heb gyfeiliant yng Ngogledd Carolina, ym 1925.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 963 [old-time].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Humphrey, Mark. What is Old-time Music?. oldtimemusic.com. Adalwyd ar 6 Awst 2012.