Cerddorion Bremen

"Cerddorion Bremen" (Almaeneg: Die Bremer Stadtmusikanten) yw stori dylwyth teg Almaeneg poblogaidd a gasglwyd gan y Brodyr Grimm a gyhoeddwyd yn Grimms' Fairy Tales ym 1819.[1] Mae'r stori yn adrodd hanes pedwar anifail domestig hen. Maent wedi treulio oes yn gweithio'n galed yn cael eu hesgeuluso a'u cam-drin gan eu cyn-berchnogion. Yn y pen draw, maen nhw'n penderfynu rhedeg i ffwrdd a dod yn gerddorion yn ninas Bremen.

Cerddorion Bremen
Cerflun o'r stori yn Bremen.
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Awdurbrodyr Grimm, Jacob Grimm, Wilhelm Grimm Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1819 Edit this on Wikidata
Genrestori dylwyth teg Edit this on Wikidata
LleoliadBremen Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
RhanbarthMitte Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyhoeddodd y Brodyr Grimm y stori hon gyntaf yn ail argraffiad Kinder- und Hausmärchen ym 1819, yn seiliedig ar gyfrif y storïwr Almaeneg Dorothea Viehmann (1755-1815).

Crynodeb golygu

 
Cerflun o'r stori yn Fujikawaguchiko, Siapan.

Yn y stori, mae asyn, ci, cath, a cheiliog (neu iâr), pob un yn rhy hen i fod yn ddefnyddiol rhagor ar eu ffermydd. Maent ar fun cael eu taflu allan neu eu cam-drin gan eu perchnogion. Fesul un, maen nhw'n gadael eu cartrefi ac yn ymadael gyda'i gilydd. Maen nhw'n penderfynu mynd i Bremen, sy'n adnabyddus am ei ryddid, i fyw heb berchnogion a dod yn gerddorion yno ("Rhywbeth gwell na marwolaeth y gallwn ni ddod o hyd iddo yn unrhyw le").

Ar y ffordd i Bremen, maen nhw'n gweld bwthyn gyda golau ynddo. Maen nhw'n edrych y tu mewn ac yn gweld pedwar lladron yn mwynhau'r pethau gwnaeth eu dwyn. Maen nhw'n penderfynu dychryn y lladron i ffwrdd trwy sefyll ar gefnau ei gilydd ac achosi stŵr - mae'r dynion yn rhedeg am eu bywydau, heb wybod beth yw'r sain ryfedd. Mae'r anifeiliaid yn cymryd y tŷ, yn symud mewn, bwyta pryd bwyd da, ac yn ymgartrefu am y noson.

Yn ddiweddarach y noson honno, mae'r lladron yn dychwelyd ac yn anfon un o'u haelodau i mewn i ymchwilio. Mae'n gweld llygaid y gath yn tywynnu yn y tywyllwch ac mae'r lleidr yn meddwl ei fod yn gweld glo'r tân. Mae'r lleidr yn estyn i gynnau ei gannwyll. Yna mae pethau'n digwydd yn olynol ac yn gyflym; mae'r gath yn crafu ei wyneb gyda'i chrafangau, mae'r ci yn ei frathu ar ei goes, mae'r asyn yn ei gicio gyda'i garnau, ac mae'r ceiliog yn clochdar ac yn ei erlid allan o'r drws, yn sgrechian. Mae'n dweud wrth y lladron eraill iddo gael ei syfrdanu gan wrach erchyll a oedd wedi ei grafu gyda'i ewinedd hir (y gath), dyn sydd â chyllell (y ci), anghenfil du a oedd wedi ei daro â ffon (yr asyn), a gwaethaf oll, barnwr a oedd wedi sgrechian o'r to (y ceiliog). Mae'r lladron yn ymadael ac yn gadael y bwthyn i'r creaduriaid rhyfedd. Felly mae'r anifeiliaid yn byw yn y bwthyn yn hapus am weddill eu hoesau.

Amrywiadau golygu

Mae'r stori Cerddorion Bremen yn stori o fath 130 yn nosbarthiad Aarne-Thompson ("Mae crwydriaid anifail yn canfod cartref newydd").[1]

Yn fersiwn wreiddiol y stori hon, o'r 12g, arth, llew a blaidd yw'r lladron (mae pob anifail yn ymddangos mewn symbolau herodrol). Yn y fersiwn hon, pan fydd yr asyn a'i ffrindiau'n cyrraedd Bremen, mae'r trigolion yn eu canmol am gael gwared â'r bwystfilod ofnadwy o'r ardal. Mewn fersiwn arall mae'r lladron yn dinistrio bywoliaeth perchnogion yr anifeiliaid, maen nhw fethu â gofalu amdanynt ymhellach, a dyma'r rheswm mae angen i'r anifeiliaid gadael. Ar ôl i'r anifeiliaid cael gwared a'r lladron maen nhw'n mynd â'r pethau yn ôl at eu meistr er mwyn iddo allu ailadeiladu eu bywydau. Mae fersiynau eraill yn cynnwys o leiaf un anifail gwyllt, er enghraifft madfall, yn helpu'r anifeiliaid domestig cael gwared a'r lladron.[2]

Mae Joseph Jacobs yn dyfynnu'r stori hwn fel fersiwn gyfatebol i'r stori Wyddeleg "Jack and His Comrades",[3] a'r stori Saesneg "How Jack went to seek his fortune".[4] Mae'r stori hefyd yn ymddangos yng nghasgliadau chwedlau Americanaidd.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Ashliman, D. L. (2017). "The Bremen Town Musicians". University of Pittsburgh.
  2. "Die Bremer Stadtmusikanten / Bremen Town Musicians". German stories. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-19. Cyrchwyd February 10, 2018.
  3. Jacobs, Joseph. Celtic Fairy Tales. London: David Nutt. 1892. p. 254.
  4. Jacobs, Joseph. English Fairy Tales. London: David Nutt. 1890. p. 231.
  5. Baughman, Ernest Warren. Type and Motif-index of the Folktales of England and North America. Indiana University Folklore Series No. 20. The Hague, Netherlands: Mouton & Co 1966. p. 4.