Grŵp o bobl o darddiad Celtaidd sy'n gysylltiedig â Chernyw a'r Gernyweg yw'r Cernywiaid. Maent yn olrhain eu gwreiddiau i bobl gwreiddiol ynysoedd Prydain a siaradai iaith debyg iawn i'r Gymraeg, a chyn hynny, i'r Brythoniaid a drigai yno cyn dyfodiad y Rhufeiniaid.[1] Efallai mai un o'r Cernywiaid mwyaf adnabyddus yn 2018 oedd y gantores Gwenno Saunders a gyfrifai ei hun hefyd yn Gymraeg.

Cernywiaid
Hen fwynglawdd tun ger Pendeen, Cernyw
Cyfanswm poblogaeth
ansicr (mae'n debyg does dim mwy na 250 000 o Gernywiaid brodorol byd-eang)
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Cernyw
Ieithoedd
Saesneg, Cernyweg
Crefydd
Anglicaniaeth, Methodistiaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Gwyddelod, Manawyr, Llydawyr, Albanwyr, Cymry, Saeson

Bu i'r Deyrnas Unedig eu cydnabod yn ffurfiol fel 'lleiafrif cenedlaethol' (national minority) yn 2014.[2]

Ceir llawer o Gernywiaid sy'n ymhyfrydu yn eu tras a'u hunaniaeth cwbwl wahanol i weddill trigolion Lloegr, sydd ar y cyfan yn Saeson o dras Sacsonaidd a phobloedd eraill.

Llwythi Celtaidd a drigai yma o'r Oes Haearn, drwy arhosiad y Rhufeiniaid, ac yna eu disgynyddion hyd at y 7g: y Dumnonii gan mwyaf yng Nghernyw a'r Durotriges yn Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf.[3][3][4] A 'Cernyw' oedd enw'r darn o dir ble'r oeddent yn byw erioed hyd y gwyddus. Daw'r enw o enw'r llwyth y Cornovii,[3][4] ond cyfeiria'r mewnlifiad o Sacsoniaid yn y 5ed a'r 6g atynt fel "Westwalas", sef "Cymru'r Gorllewin" - sy'n dangos y cysylltiad Cymreig a Cheltaidd yn glir iawn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Magocsi379
  2. "Cornish people formally declared a national minority along with Scots, Welsh and Irish". The Independent. 23 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-24. Cyrchwyd 23 April 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Snyder160
  4. 4.0 4.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Magnag2


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato