Yr hyn a roddir mewn dryll er mwyn galluogi'r arf i saethu yw cetrisen (lluosog: cetris) neu rownd (lluosog: rowndiau), sydd yn cynnwys cas, primer, tanwydd, a thaflegryn (gan amlaf bwled).[1]

Cetrisen fodern mewn arf tân, sy'n cynnwys:
1. y fwled, sef y taflegryn;
2. y casin, sy'n dal yr holl rannau at ei gilydd;
3. y tanwydd, er enghraifft powdwr gwn neu gordit;
4. yr ymyl/cylchyn, sy'n galluogi'r alldynnwr i afael y casin a'i dynnu o'r siambr unwaith i'r arf gael ei thanio;
5. y primer, sy'n tanio'r ffrwydryn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Firearms Definitions [cartridge]. Llysoedd Talaith Tennessee. Adalwyd ar 10 Mai 2013.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am arf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.