Cerflunydd Groegaidd a anwyd ar ynys Rhodos oedd Chares o Lindos (ganed 280 CC). Bu'n un o fyfyrwyr Lysippos.[1] Adeiladodd Chares Colosws Rhodos yn 282 CC, a oedd yn gerflun efydd enfawr i dduw yr haul a duw nawdd Rhodos, Helios.[2] Adeiladwyd y cerflun i gofio am fuddugoliaeth Rhodos dros y Macedoniaid a ymosododd arnynt yn 305 CC, o dan arweiniad Demetrius I, mab Antigonus, cadfridog i Alecsander Fawr.

Chares o Lindos
Ganwyd4 g CC Edit this on Wikidata
Lindus Edit this on Wikidata
Bu farw280 CC Edit this on Wikidata
Rhodes Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, pensaer Edit this on Wikidata
Adnabyddus amColosws Rhodos Edit this on Wikidata
Mudiadcelf Helenistaidd Edit this on Wikidata

Priodolir pen anferthol a ddaethpwyd i Rufain ac a gysegrwyd gan P. Lentulus Spinther i Chares ar Fryn y Capitol, yn 57 CC (Plinius yr Hynaf, Naturalis Historia XXXIV.18).[3]

Roedd Colosws Rhodos yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd,[4] ac fe'i ystyriwyd yn un o weithiau gorau Chares tan iddo gael ei ddinistrio gan ddaeargryn yn 226 CC.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Arts, Briefly Lawrence Van Gelder. nytimes.com Adlawyd ar 2007-12-19
  2. Information about the Colossus of Rhodes Adalwyd ar 2007-12-19
  3. The Ancient Library Archifwyd 2008-05-21 yn y Peiriant Wayback. 2008-05-16
  4. The Colossus of Rhodes 2007-12-19
  5. Colossus of Rhodes 2007-12-19