Charles Morley

gwleidydd (1847-1917)

Roedd  Charles Morley  (27 Tachwedd 184727 Hydref 1917) yn wleidydd Rhyddfrydol ac yn Aelod Seneddol Sir Frycheiniog

Charles Morley

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Charles Morley yn Clapton yn fab i Samuel Morley AS Rhyddfrydol Nottingham a Bryste a Rebekah Maria Hope  ei wraig. Fe fu frawd Charles, Albert  Morley yn AS Rhyddfrydol dros Fryste a bu brawd arall iddo Samuel Morely yn Llywodraethwr Banc Lloegr.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt gan raddio BA ym 1870 ac MA ym 1874

Priododd Emily Beadon ym 1886, yr oedd hi yn ferch i William Beadon, bonheddwr. Bu iddynt  bedwar o blant.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol dros y Dwyrain Gwlad yr Haf yn  Etholiad Cyffredinol 1892 heb lwyddiant.

Bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol dros y Sir Frycheiniog yn Etholiad Cyffredinol  1895 ar ôl i gyn AS Rhyddfrydol yr etholaeth William Fuller-Maitland  ymddeol,

Yn  Etholiad Cyffredinol 1900 cafodd ei ailethol yn Sir Frycheiniog, yn ddiwrthwynebiad.

Ymddeolodd o'r senedd ar adeg Etholiad Cyffredinol 1906.

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.