Charles Sanders Peirce

Athronydd, rhesymegwr, a mathemategydd Americanaidd oedd Charles Sanders Peirce (10 Medi 183919 Ebrill 1914) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at resymeg perthnasau a fel un o brif ladmeryddion pragmatiaeth.

Charles Sanders Peirce
Ffotograff o Charles Sanders Peirce, tua 1900.
Ganwyd10 Medi 1839 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ebrill 1914 Edit this on Wikidata
Milford, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Man preswylArisbe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, athronydd, rhesymegwr, pragmatist, ystadegydd, academydd, ieithydd, syrfewr tir, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadGeorge Berkeley Edit this on Wikidata
Mudiadpragmatiaeth Edit this on Wikidata
TadBenjamin Peirce Edit this on Wikidata
MamSarah Hunt Mills Edit this on Wikidata
PriodJuliette Peirce, Melusina Fay Peirce Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganed Charles Sanders Peirce ar 10 Medi 1839 yn Cambridge, Massachusetts, Unol Daleithiau America, yn un o bedwar mab i'r Athro Benjamin Peirce—mathemategydd Americanaidd blaenaf y 19g—a'i wraig Sarah Mills, merch y Seneddwr Elijah Mills. Penodwyd Benjamin Peirce yn athro mathemateg ym Mhrifysgol Harvard ym 1831, ac yn athro seryddiaeth ym 1842, a magwyd ei feibion mewn amgylchfyd academaidd gyda phwyslais ar syniadau newydd yn y gwyddorau. Mynychodd Charles ysgolion preifat a'r uwchysgol yn Cambridge, ond roedd ei addysg bob amser dan oruchwyliaeth ei dad, ac yn y cartref byddai'r Athro Peirce yn rhoi gemau a chwestiynu mathemategol i brofi dealltwriaeth ei fab.

Derbyniwyd Charles yn fyfyriwr i Goleg Harvard ym 1855, a graddiodd yn un o aelodau ieuaf ei ddosbarth ym 1859. Er iddo ymddiddori yn athroniaeth yn bennaf, o ganlyniad i ddarllen gweithiau Friedrich Schiller, ar erfyn ei dad cychwynnodd Peirce ar yrfa wyddonol, a threuliodd un flwyddyn yn y maes gydag Arolwg Arfordirol yr Unol Daleithiau. Dychwelodd i Harvard i astudio yn Ysgol Wyddonol Lawrence, ac yno derbyniodd radd gyda'r clod uchaf mewn cemeg ym 1863.[1]

Tra'n parhau a'i addysg, fe'i penodwyd i swydd barhaol yn yr Arolwg Arfordirol ym 1861, fel ymchwilydd ystadegol yn cynorthwyo'i dad, Benjamin Peirce, wrth geisio mesur hydredau o bwyntiau yn yr Unol Daleithiau, o'u cymharu â mannau yn Ewrop, drwy sylwi ar argeliadau lleuadol Twr Tewdws. Gweithiodd Charles Peirce yn Arsyllfa Coleg Harvard ar gyfer gwybodaeth seryddol yr arolwg, a chyhoeddwyd ei ymchwil yng nghyfnodolyn blynyddol yr arsyllfa ym 1878. Etholwyd Peirce yn gymrawd gan Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau yn Cambridge, Massachusetts, ym 1867, a fe'i penodwyd hefyd yn aelod o Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn Washington, D.C. ym 1877 ac yn aelod o Gymdeithas Fathemategol Llundain ym 1880. Cyflwynodd 34 o bapurau i Academi Genedlaethol y Gwyddorau o 1878 i 1911, ar amryw bynciau gan gynnwys rhesymeg, mathemateg, ffiseg, geodeseg, sbectrosgopeg, a seicoleg arbrofol.[1]

Ni lleihaodd diddordeb Peirce yn athroniaeth, a bu dan gyfaredd syniadau Immanuel Kant yn enwedig. Bu'n gyfaill i William James, Chauncey Wright, a Francis Ellingwood Abbot ers ei ddyddiau yn y brifysgol, a chyfathrebodd â nifer o feddylwyr blaenllaw eraill ei oes, yn eu plith Oliver Wendell Holmes Jr., Ralph Waldo Emerson, a John Fiske. Darlithiodd yn achlysurol, o 1864 i 1871, ar bynciau rhesymeg ac athroniaeth gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Harvard, a chyhoeddodd sawl erthygl (ond nid yr un llyfr) yn ymwneud ag athroniaeth. Fodd bynnag, ni châi Peirce ei benodi yn athro gan unrhyw brifysgol, a ni chydnabuwyd ei syniadau athronyddol gan y byd academaidd yn ystod ei oes. Treuliodd y rhan fwyaf o ddiwedd ei oes yn feudwy, a bu farw yn dlawd, ar 19 Ebrill 1914, ger Milford, Pennsylvania, yn 74 oed. Cyhoeddwyd y mwyafrif o'i weithiau o'r diwedd mewn wyth cyfrol, Collected Papers of C.S. Peirce (1931–58).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Charles Sanders Peirce. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mehefin 2022.