Charles Tunnicliffe

darlunydd, arlunydd, adaregydd, arlunydd graffig, artist (1901-1979)

Arlunydd a darlunydd arddull naturolaidd adar a bywyd gwyllt o fri rhyngwladol oedd Charles Frederick Tunnicliffe (1 Rhagfyr 19017 Chwefror 1979), a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym Môn.

Charles Tunnicliffe
Ganwyd1 Rhagfyr 1901 Edit this on Wikidata
Langley Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Malltraeth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • y Coleg Celf Brenhinol Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, adaregydd, darlunydd, arlunydd graffig, artist Edit this on Wikidata
Gwobr/aucymrawd, OBE Edit this on Wikidata
A Snowy Owl, Anglesey gan Tunnicliffe

Bywyd golygu

Ganwyd Tunnicliffe yn 1901 yn Langley, Sir Gaer, gogledd-orllewin Lloegr a threuliodd ei flynyddoedd cynnar ar fferm yn ardal Macclesfield. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Coleg Brenhinol y Celfyddydau yn Llundain.

Yn 1947 symudodd o Fanceinion i fyw mewn bwthyn ar lan aber Afon Cefni, Ynys Môn, lle bu fyw hyd ei farwolaeth yn 1979.

Gwaith golygu

Mae llawer o waith Tunnicliffe yn dangos adar yn eu lleoliadau naturiol a golygfeydd naturiolaidd eraill. Darluniodd waith Henry Williamson, Tarka the Otter. Dangoswyd ei waith hefyd ar gardiau te Brooke Bond yn y 1950au a'r 1960au. Darluniodd nifer o lyfrau Ladybird hefyd.

Ar ôl ei farwolaeth etifeddwyd llawer o'i waith gan Gyngor Sir Ynys Môn, ar yr amod ei fod yn aros yn gasgliad cyfan ac ar gael i bawb. Fe'i cedwir bellach yn Oriel Môn, ar gyrrion Llangefni.

Cymeriad golygu

Dyma drawsgrifiad o rhan o sgwrs Wil Evans, Gwalchmai am Charles Tunnicliffe[1] Roedd Wil wedi darganfod bras bychan, wedi ei glwyfo - y cyntaf erioed ym Môn. Meddai Wil: "doedd Tunnicliffe ddim yn saff p’un ta ceiliog ‘ta iar oedd o - wedyn dyma Tunnicliffe yn cymryd nodwydd ddur a dal o uwchben, a rhyw droi o nes dod i’r penderfyniad mai iar oedd o." Sut oedd y nodwydd yn dweud hynny wrtho? "Wel ia" atebodd Wil, "dwi’m yn saff. Roedd o naill ai’n mynd fel’a, neu fel’a...i ddeud y gwir dwi’n synnu bod Tunnicliffe, o bawb, yn derbyn peth fel’a." ("Byddai tyddynwyr Penrhosllugwy, gan gynnwys nhad, yn gwneud yr un peth efo wya cyn eu rhoi dan iar ori. [Roedd] y nodwydd yn troi mewn cylchoedd uwch yr wya oedd yn cynnwys c'wennod [benywod] ac yn siglo 'nol a mlaen i'r wya oedd yn cynnwys ceiliogod! Dwn i'm oedd o'n gweithio, ond ar ôl deud hynna, roedd nhad yn medru dewino dŵr hefyd!"[2])

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu