Charles Wesley

ysgrifennwr, diwinydd, clerig, athronydd, emynydd (1707-1788)

Clerigwr, efengylydd ac emynydd Seisnig oedd Charles Wesley (18 Rhagfyr 1707 - 29 Mawrth 1788). Roedd yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr.

Charles Wesley
Ganwyd18 Rhagfyr 1707 Edit this on Wikidata
Epworth Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1788 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, ysgrifennwr, emynydd, clerig Edit this on Wikidata
TadSamuel Wesley Edit this on Wikidata
MamSusanna Wesley Edit this on Wikidata
PriodSarah Wesley Edit this on Wikidata
PlantCharles Wesley Junior, Samuel Wesley, Sarah Wesley Edit this on Wikidata
Gwobr/auOriel Anfarwolion Cerddoriaeth yr Efengyl Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Roedd yn frawd iau i'r efengylydd John Wesley. Fel ei dad a'i frawd, urddwyd ef yn offeiriad yn Eglwys Loegr. Priododd Sarah Gwynne, merch Marmaduke Gwynne, oedd wedi ei droi at Fethodistiaeth gan Howell Harris.

Cyfansoddodd tua phum mil a hanner o emynau i gyd. Ymhlith y mwyaf adnabyddus mae Hark, The Herald Angels Sing, Jesus, Lover of My Soul a Love Divine, All Loves Excelling. Cyfieithiwyd cryn nifer o'i emynau i'r Gymraeg.