Roedd Charlie Newman (28 Chwefror 1857 - 28 Medi 1922) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd. Dyfarnwyd deg cap iddo i Gymru a bu'n gapten ar y tîm chwe gwaith.[1] Yn aelod gwreiddiol o garfan Casnewydd bu’n gapten ar y tîm yn nhymor 1882/83.

Charlie Newman
Ganwyd28 Chwefror 1857 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1922 Edit this on Wikidata
Lucerne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Newman yng Nghasnewydd ym 1857 i Edwin Newman, clustogwr, a Susannah ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Trefynwy, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt. Dyfarnwyd gradd BA iddo ym 1884 ac MA ym 1887. Ym 1883 ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Durham, ac ym 1885 cymerodd urddau offeiriad. Cafodd ei benodi'n Gurad Tanfield yn Swydd Durham gan wasanaethu yno rhwng 1883 a 1887 cyn dod yn Gurad y Low Fell rhwng 1887 a 1893. Ym 1893 gadawodd Low Fell i gymryd swydd rheithor Hetton-le-Hole, cyn cael ei benodi yn ficer Millfield, lle fu'n gwasanaethu hyd ei farwolaeth ym 1922.

Ym 1891 Priododd âg Emily Pearson, bu iddynt tri o blant.

Gyrfa rygbi golygu

 
Newman yn y rheng flaen, yr ail o'r chwith, gyda thîm rhyngwladol cyntaf Cymru, 1881.

Chwaraeodd Newman mewn gemau a drefnwyd gan Glwb Pêl-droed De Cymru, cyn creu Undeb Rygbi Cymru. Ym 1876 roedd yn rhan o dîm a oedd yn cynnwys chwaraewr o Gymru a wynebodd Clifton,[2] ac ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn a gurodd Henffordd.[3]

Dewiswyd Newman i chwarae yn gêm ryngwladol gyntaf Cymru, yn erbyn Lloegr ym 1881.[4] Roedd tîm Cymru yn cynnwys chwaraewyr wedi'u dewis fwy ar enw da a chefndir na dawn a chafodd crasfa gan y gwrthwynebwyr. Chwaraeodd Newman yr ornest yn safle’r cefnwr, am y tro cyntaf, a’r olaf, yn ei fywyd,[5] er nad ef oedd yr unig chwaraewr o Gymru yn y safle anghywir ar y diwrnod hwnnw. Enillodd Newman gyfanswm o ddeg cap i Gymru, ac ar 5 Ionawr 1884, cafodd gapteiniaeth Cymru mewn gêm yn erbyn Lloegr.[6] Byddai Newman yn gapten ar ei dîm chwe gwaith, gan golli pedwar a bod yn gyfartal mewn dau. Ar ôl ymddeol o rygbi daeth yn glerigwr Anglicanaidd, fel byddai James Bevan ac Edward Peake, y ddau yn gyd chwaraewyr â Newman yn gêm ryngwladol gyntaf Cymru.[7]

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru [8]

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales' rugby captains". The BBC. 2007-11-23. Cyrchwyd 2008-09-02.
  2. "FOOTBALL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1879-03-01. Cyrchwyd 2020-09-30.
  3. Smith (1980), pg 31.
  4. "FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1881-02-19. Cyrchwyd 2020-09-30.
  5. Smith (1980), pg 57.
  6. "GREAT INTERNATIONAL FOOTBALL MATCH IN LEEDS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1884-01-08. Cyrchwyd 2020-09-30.
  7. Smith (1980), pg 7.
  8. 8.0 8.1 Smith (1980), pg 469.