Charlie Parker

cyfansoddwr a aned yn 1920

Sacsoffonydd jazz Americanaidd oedd Charlie Parker (yn gywir, Charles Parker Jr.; 29 Awst 192012 Mawrth 1955). Fe'i adnabuwyd hefyd gan y llysenwau Yardbird a Bird.[1] Ef yw ffigwr canolog yr is-arddull o fewn jazz sy'n dwyn yr enw bebop.[2]

Charlie Parker
Ganwyd29 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Dinas Kansas, Kansas Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1955 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd, Manhattan Edit this on Wikidata
Label recordioVerve Records, Savoy Records, Mercury Records, Dial Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lincoln High School
  • Lincoln College Preparatory Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr sacsoffon, cerddor jazz, cerddor, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddulljazz, bebop Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBuster Smith Edit this on Wikidata
PriodChan Parker Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy Chwaraewyr Jazz Unigol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Kansas Music Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://charliebirdparker.com/ Edit this on Wikidata

Plentyndod golygu

Ganwyd Parker yn Kansas City, Kansas, a chafodd ei fagu yn Kansas City, Missouri, unig blentyn Charles Parker ac Adelaide "Addie" (Bailey), a oedd o gefndir cymysg du a Choctaw.[3] Dechreuodd chwarae'r sacsoffon yn 11 oed, gan ymuno â band ei ysgol yn 1914 ar ôl rhentu offeryn. Roedd ei dad yn bianydd ac yn ddawnsiwr a rhoddodd rhywfaint o arweinyddiaeth gerddorol i'r Parker ifanc.

Gryfa Gerddorol golygu

O'r dechrau, bu Parker yn gweithio'n galed iawn ar ei gerddoriaeth: honnodd mewn cyfweliad iddo ymarfer am hyd at 15 awr y diwrnod am gyfnod o dair i bedair blwyddyn.[4] Chwaraeodd mewn nifer o fandiau yn y 30au hwyr a'r 40au cynnar, gan gynnwys band Earl Hines, lle'r oedd yn chwarae gyda'r trwmpedwr Dizzy Gillespie a fyddai'n gydymaith pwysig i Parker yn natblygiad bebop.

Yn ystod y 40au cynnar, roedd Parker yn un o grŵp o gerddorion yn gynnwys Gillespie, Thelonious Monk ac eraill a ddatblygodd arddull newydd o chwarae jazz a ddaeth i ddwyn yr enw bebop. Arddull oedd hon a oedd yn gyflymach ac yn fwy cymhleth o na swing o ran harmonïau a melodi, gan gynnig posibiliadau ehangach ar gyfer byrfyfyrio gan alw am feistrolaeth o'r offeryn. Er yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid ar y dechrau, daeth bebop yn gynsail i jazz modern am weddill yr 20g, a bu arddull Parker o chwarae'r sacsoffon yn benodol a jazz yn gyffredinol yn ddylanwad enfawr ar genhedlaeth o gerddorion.

Recordiodd Parker nifer fawr o recordiau gyda cherddorion gan gynnwys Gillespie, Monk, Bud Powell a Miles Davis. Yn enwedig tua diwedd ei yrfa, roedd ei recordiau yn gynyddol lwyddiannus o ran gwerthiant; fodd bynnag, bu Parker yn dioddef drwy ei yrfa o drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd ei natur annibynadwy a'i gaethineb i heroin, a gyfrannodd at ei farwolaeth yn 1955 yn 34 oed yn unig. Dywedodd Miles Davis ohono, "You can tell the history of jazz in four words: Louis Armstrong. Charlie Parker."[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Charlie Parker Biography – Facts, Birthday, Life Story". Biography.com. Cyrchwyd Chwefror 17, 2014.
  2. "Charlie Parker". The New Grove Dictionary of Jazz. Cyrchwyd Ebrill 23, 2012.
  3. Dictionary of World Biography: The 20th century, O-Z gan Frank Northen Magill
  4. "Paul Desmond interviews Charlie Parker". puredesmond.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf, 2011. Cyrchwyd March 1, 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Check date values in: |archivedate= (help)
  5. Griffin, Farah Jasmine; Washington, Salim (2008). Clawing at the Limits of Cool: Miles Davis, John Coltrane, and the Greatest Jazz Collaboration Ever. New York: Thomas Dunne Books. t. 237.