Blodeugerdd o gerddi cyfrinol Bwdaidd o ddwyrain India a gyfansoddwyd rhwng yr 8g a dechrau'r 12g yw'r Charyapada (Bengaleg: চর্যাপদ, Asameg: চৰ্যাপদ). Maent yn bwysig i ieithegwyr fel enghreifftiau cynnar o'r ieithoedd Asameg, Oriya a Bengaleg. Enw arall ar y Charyapada yw Charyageeti, am eu bod yn padas (pennillion/cerddi) i'w canu. Roedd y beirdd a gyfansoddodd y Charyapadas, sy'n cael eu hadnabod fel Siddhas neu Siddhacharyas (math o seintiau neu ddoethion), yn byw yn Assam, Bengal (sy'n cynnwys Bangladesh heddiw), Orissa a Bihar.

Charyapada
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurLui pa, Kukkuripa, Kanha, Saraha, Shavaripa, Shantideva, Dombi Pa, Virupa, Gundari pa, Chatil Pa Edit this on Wikidata
IaithThe Twilight Language Edit this on Wikidata
Genrereligious poetry Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrifau golygu

Llawysgrif o ddail palmwydden yn cynnwys 47 pada gyda sylwebaeth Sansgrit yw'r testun cynharaf o'r Charyapadra a wyddys; cafodd ei darganfod yn Llyfrgell Llys Brenhinol Nepal yn 1907. Cafodd ei golygu gan Shastri fel rhan o'r gyfres Hajar Bacharer Purano Bangala Bhasay Bauddhagan O Doha yn 1916 dan y teitl Charyacharyavinishchayah. Yn ddiweddarach cyhoeddodd Prabodhchandra Bagchi gyfieirhiad Tibeteg cynnar gyda 50 pennill. [1]

Mae'r cyfieithiad Tibeteg yn rhoi inni wybodaeth ychwanegol. Ysgrifennwyd y nodiadau Sansgrit - Charyageetikoshavritti - gan un Munidatta; enw'e cyfieithydd oedd Chandrakirti.

 
Tudalennau o'r Charyapada

Beirdd y Charyapada golygu

Priodolir y cerddi i'r beirdd canlynol yn y cyfieithiad Tibeteg:

Bardd Pada
Luipāda 1, 29
Kukkuripāda 2, 20, 48
Virubāpāda 3
Gundaripāda 4
Chatillapāda 5
Bhusukupāda 6, 21, 23, 27, 30, 41, 43, 49
Kānhapāda 7, 9, 10, 11, 12, 13, 18, 19, 24, 36, 40, 42, 45
Kambalāmbarapāda 8
Dombipāda 14
Shantipāda 15, 26
Mahidharapāda 16
Vināpāda 17
Sarahapāda 22, 32, 38, 39
Shabarapāda 28, 50
Āryadevapāda 31
Dhendhanapāda 33
Darikapāda 34
Bhādepāda 35
Tādakapāda 37
Kankanapāda 44
Jayanandipāda 46
Dhāmapāda 47
Tantripāda 25

Ond mae rhai ysgolheigion diweddar yn meddwl mai Munidatta ei hun sy'n gyfrifol am yr enwau hyn ac yn amau eu dilysrwydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bagchi Prabodhchandra, Materials for a critical edition of the old Bengali Caryapadas (A comparative study of the text and Tibetan translation) Part I, Journal of the Department of Letters 30 (Calcutta, 1938), tt.1-156

Dolenni allanol golygu