Chichewa

Iaith Bantu a siaradir yn Malawi (lle mae'n iaith frodorol fwyaf) ac yn neheudir Sambia

Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Bantu yw Chichewa neu Chicheŵa, hefyd Chewa. Mae'r rhagddodiad "chi" o flaen "Chewa" yn golygu "iaith". Gelwir hefyd yn Nyanja. Fe'i siaredir gan 57.2% o'r boblogaeth ym Malawi, lle mae iddi statws iaith genedlaethol (Saesneg yw'r iaith swyddogol). Siardeir Chichewa hefyd yn Sambia, lle mae'n un o'r saith iaith lwythol swyddogol, ac yn Mosambic. Yn Simbabwe saif yn drydedd o ran defnydd o'i ieithoedd brodorol, ar ôl Shona a Sindebele. Gellir hefyd ei hystyried fel tafodiaith o Shona, iaith sy'n perthyn yn agos iddi.

Chewa
Siaredir yn Sambia, Malawi, Mosambic, Simbabwe
Cyfanswm siaradwyr 11.52 miliwn
Teulu ieithyddol Niger–Congo
  • Ieithoedd Iwerydd–Congo
    • Ieithoedd Benue–Congo
      • Ieithoedd De Bantoid
        • Ieithoedd Bantu
          • Ieithoedd Nyasa Nyasa
            • Chewa
System ysgrifennu Lladin (Yr Wyddor Chewa)
Braille Chewa
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn  Malawi
 Simbabwe
Rheoleiddir gan Nid oes rheoliad swyddogol
Codau ieithoedd
ISO 639-1 ny
ISO 639-2 nya
ISO 639-3 nya
Wylfa Ieithoedd 99-AUS-xaa – xag
Siaradwr Chichea/Nyanja speaker, o ger Lusaka, recordiwyd yn Ne Affrica

Daeth yr iaith Chichewa i amlygrwydd yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Maravi, oedd yn rheoli Malawi a rhannau o Fosambic a Sambia rhwng y 15fed a'r 18g. Llwyth sy'n byw ger Llyn Malawi yw'r Chewa; mae chicheŵa yn golygu "iaith y Chewa". Mabwysiadwyd yr iaith gan genhadon yn y 19g, a chyfieithwyd rhannau o'r Beibl iddi tua diwedd y ganrif honno.

Eginyn erthygl sydd uchod am Malawi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sambia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.