Arddull gelfyddydol Ewropeaidd yn yr 17g a'r 18g oedd chinoiserie.[1] Dyluniwyd dodrefn a chelfi tŷ, crochenwaith, tecstilau, a gerddi i ddangos argraff ffansïol yr Ewropeaid o gelfyddyd Tsieina.[2] Cafodd porslen, sidan a lacrwaith ei fewnforio o Tsieina a Japan yn ystod y cyfnod hwn, gan annog dylunwyr a chrefftwyr Ewrop. Roedd y mudiad ar ei anterth rhwng 1750 a 1765.[3] Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith yr aristocratiaid a'r llysoedd brenhinol, yn enwedig yn Ffrainc dan y Brenin Louis XIV, ac ymddangosodd hefyd ym mhensaernïaeth, y theatr, a darluniadau llyfrau.[4]

Chinoiserie
Enghraifft o'r canlynolmudiad diwylliannol Edit this on Wikidata
MathDwyreinioldeb Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Jwg porslen Fiennaidd o 1799 a ddyluniwyd i ddynwared lacrwaith Tsieineaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [chinoiserie].
  2. (Saesneg) chinoiserie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
  3. (Saesneg) Style Guide: Chinoiserie. Amgueddfa Victoria ac Albert. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
  4. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 320.