Manga Japaniaidd ydy Chobits (ちょびっツ Chobittsu) wedi'i greu gan arlunwyr y cwmni "Clamp" a'i gyhoeddi rhwng Chwefror 2001 a Thachwedd 2002. Mae na 8 cyfrol tankōbon i gyd. Addaswyd fel anime i'r teledu mewn cyfres o 26 rhaglen a'u darlledu ar sianel Systemau Darlledu Tokyo. Cafwyd dwy gêm fideo hefyd yn dilyn y gyfres a llawer o omake fel calendrau, llyfrau, cardiau a ffigyrau. Manga math Seinen ydy hwn.

Chobits
Enghraifft o'r canlynolcyfres manga Edit this on Wikidata
AwdurClamp Edit this on Wikidata
IaithJapaneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi25 Medi 2000 Edit this on Wikidata
Genreecchi, drama anime a manga, anime a manga ffugwyddonol, comedi rhamantus anime a manga Edit this on Wikidata
CymeriadauChii Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y llyfr

Plot golygu

Mae'r arwr Hideki Motosuwa, yn canfod math o robot, neu persocom (パソコン PasoKon), neu gyfrifiadur personol (パーソナルコンピュータ pāsonaru konpyūta) ar ffurf dynol ac mae'n ei enwi yn "Chi" ar ôl yr unig air roedd y robot yn medru ei ddeud oherwydd ei chwymp. Yna, maen nhw'n ymchwilio i sut y daeth Chi i'r ddaear a'r gyfathrach rhwng persocoms a phobol.

Barn y beiriniaid golygu

Mae pawb yn canmol safon yr anime: y sŵn a'r llun ac am y cefndir manwl. Ond roedd llawer yn beirniadu symud y ffocws o Hideki i Chi ac am lawer o fanservice.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Carpenter, Christina (2002). "Chobits". THEM Anime Reviews. Cyrchwyd 2008-08-24. "Whereas the manga version of Chobits concentrates more on Hideki's point of view, with him finding out Chii's secrets, the anime is Chii, Chii, and nothing but Chii. Now, if it were more about Chii finding out facets of her personality, basically a retelling of the manga from her point of view rather than Hideki's, this would be fine. Instead, three-fourths of the series is devoted to watching Chii do cute little things.