Christopher Isherwood

awdur Seisnig

Nofelydd, dramodydd ac awdur straeon byrion Eingl-Americanaidd oedd Christopher William Bradshaw-Isherwood (26 Awst 19044 Ionawr 1986).

Christopher Isherwood
Ganwyd26 Awst 1904 Edit this on Wikidata
Swydd Gaer Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, academydd, hunangofiannydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Taleithiol Califfornia, Los Angeles Edit this on Wikidata
Adnabyddus amA Single Man Edit this on Wikidata
TadFrancis Edward Bradshaw-Isherwood Edit this on Wikidata
MamKathleen Bradshaw-Isherwood Edit this on Wikidata
PartnerDon Bachardy Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd ym mhentref High Lane, Swydd Gaer, sydd bellach ar gyrion Manceinion Fwyaf. Mynychodd Ysgol Repton a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Gweithiodd fel ysgrifennydd a thiwtor preifat cyn iddo ennill ei damaid fel awdur yn sgil ei ddwy nofel gyntaf, All the Conspirators (1928) a The Memorial (1932). Fe drigodd ym Merlin o 1929 i 1933, ym mlynyddoedd olaf Gweriniaeth Weimar. Ysgrifennodd dwy nofel fer yn seiliedig ar ei brofiadau, Mr. Norris Changes Trains (1935) a Goodbye to Berlin (1939), a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan y teitl The Berlin Stories. Roedd y rhain yn ysbrydoliaeth i'r ddrama I Am a Camera (1951) a'r sioe gerdd Cabaret (1966). Ysgrifennodd hefyd gofiant o'i fywyd cynnar, Lions and Shadows (1938).

Fe ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1939 ar wawr yr Ail Ryfel Byd ac ymsefydlodd yn ne Califfornia. Daeth yn ddinesydd Americanaidd ym 1946. Tua'r cyfnod hwn, daeth yn heddychwr ac yn ddilynwr Swami Prabhavananda, a throdd yn Hindŵ. Roedd ei weithiau wedi'r rhyfel yn cynnwys nofelau ar sail ei fywyd personol megis A Single Man (1964)a chofiannau: Kathleen and Frank (1971), Christopher and His Kind (1977), My Guru and His Disciple (1980). Cyhoeddwyd tair chyfrol o'i ddyddiaduron wedi iddo farw.[1]

Dyn hoyw oedd Isherwodd, ac o 1953 hyd ei farwolaeth ei gymar oedd yr arlunydd Don Bachardy. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, o ganser yn 81 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Christopher Isherwood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2017.
  2. (Saesneg) Christopher Isherwood is dead at 81, The New York Times (6 Ionawr 1986). Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2017.