Church Stretton

tref yn Swydd Amwythig, Lloegr

Tref fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig yw Church Stretton.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Gorwedd ar yr A49 tua 13 milltir i'r de o dref Amwythig.

Church Stretton
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Poblogaeth4,671 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaCwm Head Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.539°N 2.808°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011244, E04008492 Edit this on Wikidata
Cod OSSO453937 Edit this on Wikidata
Cod postSY6 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,671.[2]

Yn oes Victoria, gelwid y dref yn Little Switzerland oherwydd y mynyddoedd o'i chwmpas, lle ceir creigiau hynafol iawn.[3]

Church Stretton o Gwm Cardingmill

Caer Caradog golygu

Bryn ger Church Stretton ac All Stretton yn Swydd Amwythig yw "Caer Caradoc"; o'i gopa ceir golygfeydd gwerth chweil. I'r gogledd gwelir Wrekin, i'r dwyrain Cefn Gweunllwg (Saesneg: Wenlock Edge), i'r gorllewin ceir y Long Mynd, ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Bryniau Clwyd yn y gogledd a fflatiau tal Birmingham i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de. Ceir bryn cyfagos o'r un enw 1 km i'r gorllewin, a cheir un arall yng Ngherrigydrudion.

Dyma fryncyn G/WB-006 yn Summits on the Air a chyfeirnod grid yr OS yw SO477953. Saif 1,506 tr (459 m) uwch lefel y môr.

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn neu efallai ddiwedd Oes yr Efydd ac o'r cyfnod Celtaidd hwn y daw'r enw. Credir fod brwydr bwysig wedi'i ymladd yma: brwydr olaf y "Brenin Mawr Caradog" yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa, ac mai'r fryngaer hon oedd ei brif gartref ac amddiffynfa.

 
Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Cofeb rhyfel
  • Eglwys Sant Lawrens
  • Gorsaf reilffordd
  • Gwesty Longmynd
  • Marchnad

Enwogion golygu

  • Syr John Thynne (c.1515-1580)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
  3. "Church Stretton". Shropshire Tourism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-27. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2008.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato