Chwarren bwlbwrethral

Organau cenhedlu gwrywaidd
  1. pledren
  2. gwerddyr (pwbis)
  3. pidyn, cal(a)
  4. corpws cafernoswm
  5. blaen pidyn (glans)
  6. blaengroen
  7. agoriad wrethrol
  8. coluddyn mawr
  9. rectwm
  10. fesigl semenol
  11. dwythell alldaflol (neu ffrydiol)
  12. chwarren brostad
  13. chwarren Cowper
  14. anws
  15. fas defferens
  16. argaill
  17. caill
  18. ceillgwd

Mae'r chwarren bwlbwrethral, a elwir hefyd chwarren Cowper, yn un o ddwy chwarren glystyrog yn y gwryw. Maent wedi eu lleoli o dan y chwarren brostad ar ddechrau rhan fewnol y pidyn. Maent yn ychwanegu hylifau mwcaidd i semen yn ystod y broses alldaflu. Mae'r chwarennau yn cynnwys dwythellau sy'n gwagio i'r wrethra, tiwb bydd wrin a semen yn mynd trwyddi. Maent yn cynnwys rhwydwaith o diwbiau a sachau bach. Rhwng y tiwbiau mae ffibrau cyhyr a meinwe elastig sy'n rhoi cynhaliad strwythurol i'r chwarennau. Mae celloedd yn y tiwbiau a'r sachau yn cynnwys defnynnau o fwcws protein trwchus. Mae'r hylif sy'n cael ei ysgarthu gan y chwarennau hyn yn glir ac yn drwchus ac yn gweithredu fel iraid. Credir hefyd ei bod yn gweithredu fel asiant fflysio sy'n glanhau'r wrethra cyn i'r semen gael ei alldaflu. Gall hefyd helpu i wneud y semen yn llai dyfrllyd ac i ddarparu amgylchedd byw addas ar gyfer y sberm[1].

Cyfeiriadau golygu

  1. Inner body Cowper's Gland adalwyd 29 Ionawr 2018


  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.