Chwe Oes y Byd

yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr yn dosbarthu hanes y Byd yn chwech oes
(Ailgyfeiriad o Chwech Oes y Byd)

Yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr, gan ddilyn y traddodiad Cristnogol, yn dosbarthu hanes y Byd yn chwe oes. Weithiau ychwanegid seithfed oes trwy gyfrif cyfnod cenhadaeth Iesu Grist fel y chweched oes a'r cyfnod ar ôl hynny fel y seithfed.

Chwe Oes y Byd
Enghraifft o'r canlynolamser Edit this on Wikidata
Rhan ohanes Edit this on Wikidata
Y Farn Fawr ar ddiwedd Oes Olaf y Byd (o destun o Lyfr Genesis yng Nghadeirlan Caerwynt)

Yr Oes Gyntaf golygu

O Greu y Byd gan Dduw hyd at y Dilyw, h.y. o amser Adda ac Efa yng Ngardd Eden hyd amser Noa. Cyfnod o 2,242 mlynedd.

Yr Ail Oes golygu

O'r Dilyw hyd oes Abraham. Cyfnod o 942 mlynedd.

Y Drydedd Oes golygu

O amser Abraham hyd amser Dafydd, brenin Israel. Cyfnod o 500 mlynedd.

Y Bedwaredd Oes golygu

O amser Dafydd hyd amser y proffwyd Daniel a Nebuchodnesar, brenin Babilon, pan gaethiwyd yr Iddewon "ar lannau Babilon". Cyfnod o 569 mlynedd.

Y Bumed Oes golygu

O amser Daniel hyd amser Ioan Fedyddiwr a genedigaeth Crist. Cyfnod o 566 mlynedd.

Y Chweched Oes golygu

O amser Ioan Fedyddiwr hyd Ddydd y Farn ar Ddiwedd y Byd.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.