Ci sodli sy'n tarddu o Israel yw Ci Canaan. Gwarchotgwn a helgwn a fu'n byw yn y wlad ers oes y Beibl yw ei hynafiaid. Dros amser, trodd y mwyafrif ohonynt yn gŵn ysgymun hanner-gwyllt oedd yn byw yn yr anialwch. Dechreuodd rhaglen fridio yn y 1930au i ailddofi'r cŵn a'u hyfforddi'n warchotgwn ar gyfer cibwtsau.

Ci Canaan
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs18 cilogram, 25 cilogram Edit this on Wikidata
GwladPalesteina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddid cŵn Canaan yn ystod Rhyfel 1948 fel negesyddion, gwyliedyddion ac i leoli ffrwydron tir. Ym 1949 cafodd y dasg o ddatblygu'r brîd newydd ei gymryd gan sefydliad cŵn tywys.[1]

Ci cryf, deallus a hawdd ei hyfforddi yw Ci Canaan. Mae'n hoff o chwarae ac yn ffyddlon i'w berchennog a'i deulu ond yn ochelgar gyda phobl ddieithr. Saif tua 48 i 61 cm o uchter ac mae'n pwyso 16 i 25 kg. Mae ganddo glustiau sy'n sefyll i fyny a chynffon drwchus sy'n troi'n ôl dros y cefn. Mae ganddo gôt ddwbl o flew byr, sy'n wyn gyda marciau brown, du neu goch, neu'n lliw du neu frown gyda marciau gwynion.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Canaan dog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2016.